Ysgol Gymraeg i Grangetown: Ymgyrchwyr yn cyflwyno tystiolaeth gerbron Pwyllgor Craffu

3 Medi 2013

 Am 3.30 y prynhawn yma (Medi 3ydd) bydd aelodau Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Caerdydd yn ymgynnull i graffu ar benderfyniad diweddar y cabinet i beidio sefydlu ysgol gynradd Gymraeg newydd yn ardal Grangetown o’r ddinas, er fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith a chyllid eisioes wedi’i glustnodi i’r cynllun.

Trefnwyd cyfarfod arbennig o’r pwyllgor wedi i gynghorydd alw’r penderfyniad i mewn. Bydd disgwyl i aelodau gloriannu rhinweddau’r penderfyniad ynghyd â’r holl broses fu ynghlwm ag ef.

Trawsdoriad Eang

Mae trawsdoriad eang o dystion wedi’i gwahodd i gyflwyno tystiolaeth, gan gynnwys rhieni lleol, aelodau Ymgyrch TAG (Trebiwt a Grangetown), cyfreithwyr mygedol Rhien dros Addysg Gymraeg (RhAG) a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Mae’r tystion yn perthyn i amrywiaeth o gefndiroedd ethnig a ieithyddol, sy’n adlewyrchu gwneuthurïad poblogaeth ward Grangetown.

Meddai Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-Gadeirydd Ymgyrch TAG, “Mae’r cyngor wedi torri’r cytundeb i adeiladu ysgol gyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Grangetown, ac yn hytrach yn cynnig ymestyn Ysgol Pwll Coch, a leolir yn Nhreganna (sydd eisoes gyda dros fil o leoedd ysgol cynradd cyfrwng Cymraeg), mewn ymgais amhriodol i gwrdd â’r galw. Rydym yn credu bod y cabinet wedi gweithredu’n annoeth ar sail rhagdybiaethau annilys, a thrwy hynny fethu yn eu dyletswydd i gwrdd ag anghenion addysgol ein plant.”

Opsiwn Anymarferol

Dywedodd Jo Beavan Matcher, cyd-Gadeirydd Ymgyrch TAG, “Ar hyn o bryd nid oes yr un ysgol gyfrwng cymraeg yn Grangetown a Butetown. Mae’n rhaid i rai, gan gynnwys llawer sy’n byw mewn ardal Cymunedau’n Gyntaf, wynebu teithiau o hyd at wyth milltir y dydd (bob ffordd) heb unrhyw gymorth ariannol ar gyfer trafnidiaeth ac mae’r plant hynny sy’n byw ymhellach i ffwrdd yn gorfod gwynebu taith hir mewn tacsi, gyda’r trethdalwr yn ysgwyddo’r gost. Mae hyn yn gwneud ymrwymiad y Cyngor o ddarparu ‘ysgolion lleol i blant lleol’ yn destun gwawd. Holl amcan rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yw lleihau’r gagendor addysg a sgiliau rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd mwy cefnog. Byddai gweithredu ar gynlluniau cyfredol y cabinet trwy ehangu’r ddarpariaeth ym Mhwll Coch, a thynnu nôl ar unrhyw ddarpariaeth leol yn Grangetown, yn gwneud Addysg Gymraeg yn opsiwn cwbl anymarferol i nifer o deuluoedd sy’n gweithio’n llawn-amser neu sydd heb gar, ac felly’n eu hamddifau o fynediad hwylus at yr addysg o’u dewis hwy. Bydd yn gwadu cyfle teg i blant aelwydydd di-Gymraeg o bob cefndir ethnig yn yr ardal gael y cyfle i dderbyn Addysg Gymraeg. Rydym yn gobeithio y byddai Cyngor dan arweinyddiaeth Llafur yn effro i heriau economiadd gymdeithasol o’r fath.” 

Gwasanaethu Teuluoedd

Meddai Huw Williams, Ysgrifennydd Ymgyrch TAG, “Mae’r cyfarfod hwn yn eithriadol bwysig o safbwynt yr ymgyrch, ac rydym yn mawr obeithio bydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc yn cyfeirio’r penderfyniad diffygiol a ffeithiol wallus hwn yn ôl at y cabinet ar sail y sgîl-effeithiau afresymol ac anghymesur y byddai’n ei gael ar deuluoedd Grangetown a Threbiwt. Hyderwn y bydd hynny’n ysgogi’r cabinet i wyrdroi’r cynnig presennol a dychwelyd at y cynllun gwreiddiol o sefydlu ysgol gynradd Gymraeg yn Grangetown i wasanaethu teuluoedd o fewn eu cymuned leol.”

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Jo Beaven Matcher ar 078866 771230 neu Dr Dyfed Wyn Huws ar 07832 121144.

Cliciwch yma ar gifer agenda a phapurau cefndirol cyfarfod y Pwyllgor Craffu.

Dilynwch Ymgyrch TAG ar Twitter @YmgyrchTAG

Dilynwch Rhag ar Twitter @RhAG1

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Siôn yn dweud:

Pob hwyl iddyn nhw. Dwi’n meddwl fod achos gan TAG a RhAG i wneud cwyn i’r EHRC (Equalities and Human Rights Commission – y corff newydd sydd wedi llyncu’r CRE gynt).

Mae agwedd Llafur Caerdydd yn gwahaniaethu yn erbyn aelodau cymuned ddaearyddol (sydd hefyd yn gymuned ddiwylliannol nodweddol ac eitha unigryw yng Nghymru) sydd eisiau i’w plant fod yn rhugl yn dwy iaith swyddogol Cymru.

Mae ffigurau’n dangos nad ydy ysgolion Saesneg lle dysgir Cymraeg fel ail iaith yn gallu addo dwyieithrwydd i blant o bob cefndir. Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn darparu hyn – dyma’r unig wir opsiwn i rieni nad sy’n siarad Cymraeg ond sydd eisiau iw plant fod yn rhugl yn y ddwy iaith.

Gan nad oes ysgol Gymraeg lleol yn yr ardal hon mae rhieni, nifer ohonynt o gefndiroedd ethnig yn mynd i deimlo nad yw Cyngor Caerdydd yn credu fod addysg Gymraeg yn addas ar gyfer pobl o’u cefndir hwy. Dyna’r neges mae Llafur Caerdydd yn ei roi.

Mae polisi Llafur Caerdydd hefyd yn ceisio cadw’r Gymraeg mewn ghetto arbennig ac nid ei wneud yn iaith i bawb ac iaith aml-ethnig. Maent felly yn gwahaniaethu yn erbyn datblygiad ac amrywiaeth yr iaith Gymraeg sydd am greu cymuned Gymraeg aml-ethnig sy’n adlewyrchu gwahanol farn, crefydd, hil a diwylliant. Oes rhagfarn ymhlith rhai aelodau Llafur nad yw pobl ‘ethnig’ eisiau neu’n haeddu addysg Gymraeg ac mai iaith ‘ethnig gwyn’ yw’r Gymraeg?

Wrth gwrs, mae agwedd y blaid Lafur hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl o bob cefndir sydd yn digwydd byw yn De Caerdydd ac sydd am i’w plant fod yn ddwyieithog.

Chris yn dweud:

Pob lwc. Mae angen ysgol newydd I Grangetown a de Caerdydd. Ond i fod yn fanwl gywir, mae Pwll Coch yn Lawrenny Avenue sydd yn Grangetown – er ei bod hi’n bell o ran fywaf yr ardal.

Mae rhywbeth snoblyd amdanom ni yma yng Nghaerdydd. Mae bron pawb yn trio rhoi “upgrade” i’n cyfeiriadau pan ni’n byw yn agos i’r ffin. Yr hen Gabalfa’n esgus bod yn Heath; Gabalfa estate yn troi’n Llandaff North, Llandaff North yn troi’n Llandaff neu’r Eglwys Newydd; Llanedeyrn yn troi’n Pentwyn a Pentwyn yn troi’n Cyncoed neu Lisvane, ac ati.