Cyfranwyd gan Aneurin Karadog
Henffych! wy wedi dod draw o’r gorllewin gwyllt lle wy’n byw (Pontyberem) i gynnwrf a bwrlwm Tafwyl.
Rwy yma i gynnal gweithdy barddoni gyda phlant y ddinas, un o fy nyletswyddau cyntaf i fel Bardd Plant. Yn anffodus wrth i fi gerdded tua’r castell roedd hi’n law mawr, ond wedi i rai plant ddechrau crefftio cwpledi a phenillion fe ddechreuodd yr haul ymddangos, ac nid cyd-ddigwyddiad mo hynny!
Mae gen i fwriad i sgwennu englyn i tafwyl, yn amlwg, nid yw wedi ffurfio yn fy meddwl eto, ond ceisiaf ddod yn ol nes ymlaen i ddiweddaru’r post.
sylw ar yr adroddiad yma