Cafodd dyn 25 mlwydd oed ei anafu gyda chyllell mawr mewn “ymosodiad cas” y tu allan i fwyty poblogaidd ym Mae Caerdydd, mae’r heddlu wedi cadarnhau.
Digwyddodd hyn tua saith o’r gloch nos Wener ym maes parcio Canolfan Red Dragon, tu allan i fwyty Miller a Carter.
Mae gan y dioddefwr toriad ar ei arddwrn chwith ar ôl cael ei daro gyda’r gyllell fawr.
Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Arestiwyd dyn 32 mlwydd oed dyn am yr ymosodiad, am 7.39 yr hwyr.
“Ymosodiad cas” ym Mae Caerdydd
15 Tachwedd 2015
sylw ar yr adroddiad yma