Mae Dinas Caerdydd yn ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â’i Strategaeth Barcio newydd.
Mae modd i bobl Caerdydd fynegi barn drwy fynd i wefan Cadw Caerdydd i Symud:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel:
“Mae Caerdydd yn ddinas sy’n prysur dyfu, ac mae’n denu nifer sylweddol o weithwyr sy’n teithio iddi o’r ddinas-ranbarth bob dydd. Yn ogystal â hynny, mae’r ddinas yn gyrchfan flaenllaw o ran twristiaeth a gweithgareddau hamdden.
“Mae ein strategaeth barcio newydd yn ceisio rhoi cynllun hyblyg ar gyfer trin y beichiau hyn ar y rhwydwaith traffig a’r effaith mae hynny’n ei chael ar fywyd bob dydd yn y ddinas.
“Bydd adborth pobl Caerdydd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ein helpu i sicrhau ein bod wedi dewis y dull cywir o weithio tuag at gyrraedd ein nod, sef sicrhau mai Caerdydd yw’r brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.”
Bydd y cyfnod ymgynghori’n para tan 16 Rhagfyr 2015
sylw ar yr adroddiad yma