Ymateb TAG i gynigion y Cyngor

23 Ionawr 2015

Datganiad swyddogol TAG

Mae Ymgyrch TAG wedi rhoi croeso gofalus i gynigion diweddaraf Cyngor
Caerdydd mewn perthynas â darparu lleoedd ysgol cynradd yn ardaloedd
Grangetown, Tre-biwt, Glan-yr-afon a Threganna.

Caiff y cynigion hyn eu hamlinellu mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi cyn i
Gabinet Cyngor Gaerdydd gwrdd ar 26 Ionawr.

Meddai Jo Beavan-Matcher, Cadeirydd Ymgyrch TAG, “Mae cyhoeddiad
hir-ddisgwyliedig y cynigion hyn yn destun rhyddhad inni fel ymgyrch; bum yn
aros am ddiweddariad ynghylch cynlluniau’r Cyngor ers mis Medi a chael ein
siomi droeon yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Yn gyntaf, rhaid nodi bod y cynnig i sefydlu dosbarth cychwynnol i agor yn
y gymuned leol erbyn Medi 2015 i’w groesawu. Mae’n argoeli’n dda ei bod wedi
lleoli yn Ysgol Ninian Park, cartref Ysgol Gymraeg Tan-yr-Eos gynt, gan
sicrhau darpariaeth fydd yn hygyrch a chyfleus i nifer o deuluoedd yr
ardal?. Pwysleisiwn bod angen sicrhau nifer digonol o leoedd o’r cychwyn
cyntaf, gan fod patrwm twf y gorffennol yn yr ardal hon yn cyfiawnhau a
phrysuro’r angen dros agor ysgol ddwy ffrwd fwy neu lai ar unwaith.

“Un siom amlwg yw’r ffaith na chaiff yr ysgol leoliad parhaol tan 2017, er
bod addewid am ysgol erbyn 2016. Ynghlwm â hynny mae’n drueni bod oedi’r
Cyngor hyd yma wedi golygu na fydd modd cynnal ymgynghoriad statudol tan ar
ôl etholiadau San Steffan ym mis Mai, fydd yn cyfrannu at oedi’r broses
ymhellach. Yn naturiol mae cyflwyno safle Hamadryad fel lleoliad posib yn
rhwym o gyflwyno heriau newydd, ond fel ymgyrch rydym yn awyddus i drafod
rhain ac i gydweithio gyda’r Cyngor er mwyn sicrhau’r canlyniad rydym oll am
ei weld.”

Ychwanegodd Huw Williams, Ysgrifennydd Ymgyrch TAG, “Wedi cyfnod hir o drin
a thrafod manteision ysgol wedi’i chyfuno gydag adnoddau hamdden yn Channel
View, wrth reswm mae yna siom nad yw bellach yn ystyriaeth gan y Cyngor.
Wedi dweud hynny, oherwydd cymhlethdodau’r fath brosiect, roedd yna angen
dirfawr am weledigaeth a chefnogaeth gan wleidyddion y Ward, na chafwyd byth
mohoni.  Yn wir, mae’n ymddangos mai rhannu’r gymuned a chorddi’r dyfroedd
oedd eu blaenoriaeth nhw. Rydym yn parhau i bryderu am ddyfodol y Ganolfan
Hamdden a’r Ganolfan Chwarae oherwydd y hinsawdd economaidd, a gallwn ond
gobeithio bod gan y Cynghorwyr lleol syniadau gwell ynglyn a sut i’w
ddiogelu yn y tymor hir.

Fel ymgyrch mae’n rhaid inni nawr ffocysu ar yr hyn sydd i ddod, a pharhau
gyda’r agwedd gadarnhaol rydym wedi meithrin o’r cychwyn –  gan sicrhau
Ysgol Gymraeg i blant Grangetown a Threbute mor fuan a phosib.  Mae angen
dechrau meddwl o ddifrif am  ei dyfodol: dyma gyfle unigryw i weld y Gymraeg
yn ffynnu mewn ardal sydd yn dlawd o ran adnoddau ond yn gyfoethog o ran
diwylliant a threftadaeth – a’r iaith Gymraeg yn rhan ganolog o hynny.

“Bydd sefydlu manylion ynghylch hunaniaeth, dalgylch, trefniadaeth addysgol
a gweinyddiaeth yr ysgol yn angenrheidiol o’r dechrau – o’r eiliad y
sefydlir y dosbarth cychwynnol a thrwy gydol y broses o drosglwyddo’r ysgol
i’w chartref newydd parhaol – mae gwersi i’w dysgu o’r gorffennol yn y
cyswllt hwn. Mae cadarnhau’r manylion a chyfathrebu hynny gyda rhieni yn
hanfodol er mwyn lleddfu unrhyw bryderon neu gamsyniadau. Bydd hynny’n
allweddol er mwyn gosod amodau teg i’r ysgol ffynnu.

“Edrychwn ymlaen i ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad statudol arfaethedig
ac i barhau i gynnal deialog adeiladol gyda’r Cyngor wrth symud yn nes tuag
at agor ysgol Gymraeg newydd i wasanaethu ardaloedd Grangetown a Thre-biwt.”

Dilynwch @ymgyrchtag | Facebook : Ymgyrch TAG i gael y wybodaeth
ddiweddaraf.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma