gan Richard Nosworthy (@NosworthyR)
Fe ddechreuodd hi gyda sgwrs – sut yn y byd ydyn ni, y bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau bach, nid-am-elw, i fod i gadw lan gyda’r byd technolegol rydym yn byw ynddo?
Roeddwn i a’n ffrind, Lynsey Jackson, yn wynebu’r un broblem – trio manteisio ar yr holl cyfleoedd sy’n bodoli ar lein mewn ffordd effeithiol.
Wrth gwrs, roedden i’n gyfarwydd â Facebook ac ati – ond mae defynddio’r teclynnau hyn braidd yn wahanol mewn cyd-destun proffesiynol wrth gymrhau â rhannu lluniau o’ch gwyliau gyda ffrindiau.
Fel sawl person yn y ddinas, rwy’n gweithio fel person ‘cyfathrebu’ ac mae’r swydd yn newid yn gyflym – o’r hen fyd o ddatganiadau i’r wasg i’r byd newydd lle mae’r gwaith yno yn rhan o lun llawer mwy gymhleth.
Felly penderfynodd Lynsey a finnau i sefydlu ‘siop swopio’ er mwyn i bobl gwrdd yn rheolaidd i rannu syniadau a phroblemau, cynnal gweithdai a chlywed gan rhai o’r sawl arbenigwr yn ein dinas.
Felly – dyna, yn y bôn, y Geek Speak!
Bob mis rydym yn cwrdd yn Bar 33, Plas Windsor (agos i Heol y Frenhines) – yn ddiweddar rydym ni wedi trafod sain ar y we, creu fideos, Google+ a Storify – ond peidiwch â phoeni os nad ydych yn gyfarwydd â’r pynciau hyn.
Er ei enw gîc-aidd, nid ar gyfer ‘geeks’ yn unig mae Geek Speak – er lles pawb sydd yn ceisio gwneud ei swydd ym myd cymleth, dryslyd y cyfryngau cymdeithasol mae hi.
Rydym yn gwerthfawrogi diffyg gwybodaeth a phroblemau cymaint ag arbenigrwydd.
Os hoffech ymuno â ni, plîs cofrestrwch am ein ebyst neu dilynwch ni ar Twitter.
Gobeithiwn eich gweld chi mewn cyfarfod cyn bo hir!
sylw ar yr adroddiad yma