Gan Mali a Lucy 10 oed
Doeddem ni ddim wedi bod i sioe flodau o’r blaen, felly doeddem ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl…. heblaw am flodau wrth gwrs! . Yn sicr , doeddem ni ddim yn disgwyl bydde hwn yn le i blant. I fod yn onest, fi ddim yn siwr pam oedd mam mor awyddus i ni fynd. Ond .. roedd digon i wneud a digon i weld.
Roedd hi’n ddiwrnod oer ond heulog Ddydd Sadwrn ac roedd nifer fawr iawn o bobl wedi penderfynu, fel ni , i fynd i Barc Bute i weld beth yn union oedd yn mynd ymlaen. Roedd nifer fawr o blant yno hefyd.
Roedd digon i wneud i blant yr un oedran â ni, er enghraifft cystadleuaeth lliwio, dringo coeden , blasu planhigion a phleidleisio am y ferfa fwyaf prydferth. Roedd nifer o ysgolion cynradd yr ardal wedi creu berfâu prydferth ar y thema storiâu tylwyth teg. (shhh. fi ddim yn mynd i ddatgelu i bwy nes i bleidleisio !)
Ond yr uchafbwynt i ni oedd dringo coeden dan ofal Cyngor Caerdydd . Roedd ciw mawr o blant eisiau gwneud hwn. Roedd yn her ac roedd rhaid neidio oddi ar un o ganghennau uchaf y goeden fawr .
Yn ogystal â’r blodau a’r stondinau bwyd blasus, roedd digon i brynu a digon i wario arian poced. Ac er bod y blodau yn brydferth, nid y nhw oedd sêr y sioe i fi a Lucy ond yr holl bethau eraill oedd i weld a gwneud a’r cymeriadau lliwgar yn crwydro’r maes.
Felly er nad oeddwn yn siŵr beth i ddisgwyl, byddwn yn bendant yn mynd yn ôl flwyddyn nesaf.
sylw ar yr adroddiad yma