Mae Cath Ayres newydd ymuno â chast y gyfres ddrama boblogaidd, Rownd a Rownd. Yma, mae Cath yn sôn am ei chymeriad newydd, bywyd yng Nghaerdydd a her newydd ar ei beic..
Enw?
Cath Ayers
Swydd?
Actor
O le wyt ti’n dod yn wreiddiol?
Ces i fy magu yn Abergwili, Caerfyrddin, ac wrth fy modd yn cael mynd adre’ at Mam a Dad a gweddill y teulu pan ga i gyfle.
Lle wyt ti’n byw rŵan?
Yng Nghaerdydd mae fy ngartre ond dwi’n byw yng Nghaernarfon pan dwi’n ffilmio Rownd a Rownd.
Sut gymeriad ydi Beth?
Menyw gref, wnaiff hi unrhyw beth i gael ei ffordd ei hun. Mae’n defnyddio dynion i gael beth mae hi ishe!
Ydi Beth wedi gwneud dipyn o argraff ers iddi gyrraedd?
Mae ‘na dipyn o ‘intrigue’ ynglyn â chymeriad Beth…does neb yn siŵr iawn o ble mae hi ‘di dod, na beth yw ei stori, ac mae wedi cynhyrfu’r dyfroedd tamaid bach…a mwy i ddod!
Ydi hi’n gymeriad sy’n hwyl i’w chwarae?
Dwi wrth fy modd yn chwarae rhan Beth…mae’n gymeriad cryf â sawl ochr iddi. Mae’n ‘glamorous’ iawn, felly mae’n sbort gweld beth sydd gyda hi i wisgo bob dydd!
Ydi hi’n mynd i gorddi’r dyfroedd ar Rownd a Rownd?
O ydy! Cofiwch wylio…
Beth arall sydd gen ti ar y gweill ar hyn o bryd?
Ar ôl llwyddo i gyrraedd top Kilimanjaro y llynedd dwi ‘di dal y byg, ac wedi cytuno i seiclo o Boston i Efrog Newydd ym mis Medi a chodi arian i Ganolfan Cancr Velindre unwaith eto. Felly pob cyfle ga’i, dwi’n trio mynd mas ar y beic!
Pryd wnes di ddechrau ymddiddori mewn actio? Oeddet ti wastad isio bod yn actores?
Dwi ‘di bod â diddordeb mewn perfformio erioed, ac wedi dweud yn ifanc iawn mai actores oeddwn i am fod! Dwi wrth fy modd…ar y sgrin neu ar lwyfan, ac wedi bod yn lwcus i gael nifer o brofiadau grêt ar hyd y ffordd!
Gwyliwch Rownd a Rownd ar S4C bob nos Fawrth a nos Iau am 7.30pm, ac mae cyfle i wylio’r ddwy bennod eto am 5.40pm a 6.05pm ar nos Wener.
sylw ar yr adroddiad yma