Fe alwodd Leighton Andrews y gweinidog dros addysg a sgiliau heibio i stondyn Pobl Caerdydd yn y Tafwyl heddiw- a chofrestru’n syth bin er mwyn cyfrannu at y wefan.
“Llongyfarchiadau! Mae’n wych,” dywedodd gan ychwanegu y byddai’n ffordd dda i rhannu newyddion sy’n digwydd yn y ddinas.
Yn ogystal a chael cip olwg ar y wefan, cafodd wers cyflym ar sut i gofrestru gyda Little J er mwyn cyfrannu’n hwylus yn y dyfodol. Roedd wedi synnu ar ba mor rhwydd oedd y broses. Ei neges oedd: “Dyma fi yn Nhafwyl a dwi wedi cwrdd a Matthew Rhys!”
Ac wrth gwrs fe gafodd cyfle i gyfarfod a holl griw Pobl Caerdydd!
sylw ar yr adroddiad yma