Mae cystadleuaeth dalent Caerdydd, Y Gig Fawr, yn ôl am y chweched tro yn rhan o Ŵyl Caerdydd , a bydd 2016 yn siŵr o ddatgelu mwy o dalent Gymreig unwaith eto.
Caiff bandiau ar y rhestr fer gyfle i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach o flaen rhai o fawrion y diwydiant cerddoriaeth.

Albatross Archive, enillwyr 2014
Bydd y buddugwyr yn ennill pecyn sydd wedi ei lunio i hybu eu gyrfa yn y diwydiant cerddorol, gan gynnwys amser recordio ac ymarfer yn Stiwdios Music Box yn gweithio gyda chynhyrchydd REM, Charlie Francis, cyfweliad a chyhoeddusrwydd gyda Media Wales, gig fel prif artistiaid gan Newsoundwales, gig gefnogi yng Nghlwb Ifor Bach a gwerth £1000 o offer gan siop PMT (Professional Music Technology), a’r brand sain byd-enwog Shure.
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob artist 14 oed a hŷn o dde Cymru ac mae modd gwneud cais tan 5pm ar 20 Mai 2016.
Bydd y 10 artist ar y rhestr fer yn cystadlu mewn dwy rownd gynderfynol ar 22-23 Mehefin a bydd y rownd derfynol yng Nghlwb Ifor Bach ar 15 Gorffennaf.
Mae tocynnau ar gyfer y gigs yn £5 ac ar gael yng Nghlwb Ifor Bach.
I gystadlu a gweld y telerau ac amodau llawn ewch i wefan Digwyddiadau Caerdydd a llenwch y ffurflen gais a’i hanfon ynghyd â dau MP3 o’ch cerddoriaeth i biggig@caerdydd.gov.uk.
Mae’n rhaid i o leiaf un gân fod yn un wreiddiol.
Gallwch weld y newyddion diweddaraf ar Twitter trwy ddilyn @digwyddiadauCDF a @TheBigGig1.
sylw ar yr adroddiad yma