Fydd pencadlys newydd BBC Cymru Wales yn cael ei adeiladu yng nghanol y ddinas.
Daeth y dyfalu i ben y pnawn yma pan ddwedodd Cyfarwyddwr Cymru, Rhodri Talfan Davies mewn cyfarfod staff bod y Gorfforaeth wedi cael sêl bendith Ymddiriedolaeth y BBC i adeiladu canolfan newydd gwerth tua £170m ar safle’r orsaf bysiau yng nghanol y ddinas.
Mae’r adeiladau yn Llandâf wedi bod ar werth ers y llynedd pan gyhoeddodd y darlledwr ei fod yn ystyried adleoli am fod yr adeiladau presennol yn heneiddio, a’r dechnoleg yn annibyniadwy. Mae’r ganolfan ddarlledu wedi bod yn gartref i BBC Cymru ers 1966.
Roedd tri safle dan ystyriaeth, un yn y bae ger y stiwdios lle mae’r BBC yn cynhyrchu dramau teledu fel Doctor Who a Pobol y Cwm, a dau o gwmpas orsaf drenau Caerdydd Canolog.
Gan ddibynnu ar gytundebau cyfreithiol gyda’r datblygwr , mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau tua hydref 2015 a phawb yn symud i mewn erbyn 2018.
Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau golygu, stiwdios radio, dwy stiwdio deledu ar gyfer rhaglenni dyddiol/ wythnosol gan gynnwys Newyddion 9 a Wales Today. Fe fydd Radio Cymru, Radio Wales a gwasanaethau ar-lein BBC Cymru yn symud i’r pencadlys.
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, ” Mae’r cynlluniau ar gyfer Sgwar y Brifddinas nid yn unig yn gwneud synnwyr gwych yn ariannol, ond maen nhw hefyd yn torri tir newydd. Maen nhw’n darparu cyfle unwaith mewn les i fynd llawer yn agosach at ein cynulleidfaoedd; i helpu i drawsnewid rhan o’n prifddinas, ac i weithio gydag amrwyiath eang o bartneriaid i gryfhau enw da Cymru fel cymuned greadigol fyd enwog.”
Fe fydd y ganolfan newydd hanner maint yr adeilad presennol ond yn rhatach i’w chynnal a chwmni Foster + Partners fydd y penseiri. Mae’r BBC yn dweud y bydd gan staff yr cyfle i ‘ddweud ei dweud’ ynglyn a’r prosiect yn ystod y misoedd nesa.
Croesawodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale y newydd gan ddweud, “Ar hyn o bryd dyw’r ardal yng nghanol Caerdydd ddim yn creu’r argraff orau ond ein nod yw creu ardal lle gall pobl Caerdydd fod yn falch ohoni.” Ychwanegodd bod y datblygiad yn rhoi hwb i Gaerdydd fel canolfan blaengar y diwydiannau creadigol.
Mae’r BBC wedi cytuno ar delerau ar gyfer gwerthu’r safleoedd presennol ar Heol Llantrisant ac fe fydd yr arian daw o’r gwerthiant yn mynd tuag at y gost o adleoli.
sylw ar yr adroddiad yma