WYTHNOS SEICLO POBL CAERDYDD

9 Rhagfyr 2013

gan Sali Collins

photo 4

Lôn seiclo gyferbyn â’r Holiday Inn

Mae Pobl Caerdydd eisiau clywed eich barn chi am seiclo yng Nghaerdydd.  Drwy’r wythnos hon fe fyddwn yn cyhoeddi eitemau sy’n adlewyrchu gwahanol safbwyntiau rhai ohonoch sy’n seiclo bob dydd yn y ddinas. Felly os ydych chi’n seiclwr, cerddwr neu fodurwr, rydym yn siŵr bod barn da chi. Dros y dyddiau nesa rydym am glywed eich barn a’ch profiadau wrth deithio o gwmpas y ddinas. Byddwn yn mynd â rhai o’ch sylwadau at y cyngor mewn cyfweliad wythnos nesa.  

Felly pa fath o le yw Caerdydd i seiclo?  Ydych chi’n teimlo’n saff wrth seiclo nôl a mlaen o’r gwaith?  Oes ‘na ddigon o lonydd seiclo neu lwybrau hamdden i seiclo gyda’r teulu?  Efallai bo chi’n meddwl bod seiclo yn y ddinas yn rhy beryglus?  Beth hoffech chi weld yn digwydd yng Nghaerdydd er mwyn perswadio mwy ohonom ar ein beiciau? Neu efallai bo chi’n meddwl bo gormod ohonynt ar yr hewl yn barod! Neu efallai bo cyffes ganddoch yr hoffech gyfaddef… 

Ond yn gyntaf, mae’n rhaid i fi gyfaddef…  ambell waith dwi’n seiclo ar y palmant. Nawr cyn i chi ddweud bo hyn yn erbyn y gyfraith, hoffwn roi rhyw fath o gyd destun a chewch benderfynu os dwi’n haeddu maddeuant.

Erbyn hyn mae gen i swydd sy’n golygu y gallaf seiclo nôl a mlaen o’r gwaith bob dydd. Mae hwn wedi trawsnewid fy mywyd.  Yn yr Haf, roedd y modd yma o deithio yn ddelfrydol, trwy’r parc, awyr iach,  stopio i gael ambell i sgwrs ar y ffordd, roedd pob dim yn y byd yn ddedwydd. Ond gyda’r Gaeaf, mae pob dim wedi newid.  Gallai ddim seiclo trwy’r parc, achos mae’r parc wedi cau, mae’n dywyll ac mae’r traffig yn hunllefus. Yr unig peth amdani yw mentro ar yr hewl… ac i fod yn onest mae gen i ofn.

photo 1

Heol Penhill, Pontcanna

Mae ambell  i lôn seiclo yn ymddangos ac wedyn, yn sydyn, yn diflannu – er enghraifft ar bwys y castell, ar waelod Cowbridge Road neu ar dop Cathedral Road. Dwi’n gwybod na ddylwn i – ond eto dwi dal yn neud o.  Mae’n flin gen i.  Dwi’n ofalus, dwi byth yn seiclo pan fo lot o bobol ar y palmant hefyd… ond dwi dal yn gwybod bod yr hyn dwi’n neud yn anghywir… sori.

Felly hoffwn gyfaddef a gofyn am eich maddeuant a gwneud apêl, at Gyngor Caerdydd i ddatblygu polisi synhwyrol a tryloyw felly alla i baglu hi bant o’r palmant am byth.

Felly rhowch wybod be da chi’n feddwl o seiclo yng Nghaerdydd drwy storini, facebook, Twitter neu helo@poblcaerdydd.com.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Catrin yn dweud:

Dwi’n meddwl bod ymchwil wedi dangos nad yw llwybrau seiclo cul iawn fel y rhai yn eich lluniau yn gweithio; yn wir mae nhw’n cynyddu’r perygl i seiclwyr. Mae ‘n fwy diogel i feic deithio yng nghanol y lon geir na cheisio cadw tu fewn i ddwy droedfedd o barth coch achos mae gyrrwyr ceir, bysus a loris yn fwy tebygol o roi digon o le iddo. Mae dadl dros gael gwared ar y llwybrau cul coch yn llwyr felly. Ar strydoedd preswyl yn Grangetown a Threganna hoffwn weld llawer mwy o balmentydd yn cael eu lledu bob pen i’r stryd a llawer mwy o ramps i atal ceir rhag mynd dros 15mya. Byddai llawer haws i rieni adael i’w plant seiclo fyny ac i lawr eu stryd wedyn. Yn ei dro, byddai hyn yn helpu cymdogion i ddod i nabod ei gilydd ac yn creu cymunedau brafiach i fyw ynddynt yng Nghaerdydd.
O ran y llwybrau hamdden, mae nhw’n dda iawn ar y cyfan, yn enwedig Taith Taf a’r bae, ac mae hefyd reit hawdd seiclo efo’r plant i ganol y dre o Grangetown, sy’n gret.