Carys Thomas yw Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans Cymru.
Beth yn union mae Sustrans Cymru yn ei wneud?
Elusen yw Sustrans Cymru sy’n galluogi pobl i deithio ar droed, ar gefn beic neu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus am fwy o’r siwrneiau y byddant yn eu gwneud bob dydd. Ry’n ni’n cynnal prosiectiau o fewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau i ysgogi unigolion, teuluoedd a grwpiau i gerdded a seiclo. Ry’n ni hefyd yn gyfrifol am y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n cynnwys rhwydwaith eang o lwybrau cerdded a seiclo yng Nghymru. Eleni, ar ol chwe mlynedd o ymgyrchu a gwaith polisi, cawsom lwyddiant ar 1af Hydref â’r Ddeddf Teithio Llesol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn darparu gwell lonydd cerdded a seiclo i’w cymunedau. Fe allwch chi ddysgu mwy am ein gwaith dros y DU i gyd, fan hyn: www.sustrans.org.uk Ry’n ni hefyd ar Twitter yn y Gymraeg: @SustransCymraeg
Pa fath o waith mae Sustrans Cymru yn ei wneud yng Nghaerdydd?
Ry’n ni’n gweithio gyda nifer o ysgolion yn y brifddinas ac yn darparu gwybodaeth i blant, megis sgiliau seiclo, cyrsiau cynnal a chadw beiciau sylfaenol a chynllunio lonydd. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos â gweithleoedd i helpu cyflogwyr annog eu staff deithio i’r gwaith mewn ffyrdd cynhaliol – ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar feic neu ar droed. Yng Nghaerdydd, mae Sustrans Cymru yn lwcus iawn i gael cymorth gwirfoddolwyr mwya ffantastig, sy wedi ennill gwobr am eu gwaith ardderchog yn clirio llwybrau fel Llwybr y Taf.
Faint o bobl sy’n seiclo yng Nghaerdydd ar hyn o bryd?
Yn ôl Arolwg Holi Caerdydd mae’r nifer o bobl sy’n seiclo i’r gwaith yn y brifddinas wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf – rhyw 66% i gyd rhwng 2003 a 2013. Roedd ffigurau Cyfrifiad 2011 ychydig llai – gwelwyd cynnydd o 31%. Mae hyn i gyd yn galanogol iawn ond mae eisiau i ni gofio ry’n ni dal yn siarad am niferoedd isel iawn.
Sut mae’r niferoedd yn cymharu gyda llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig?
Mae Cymru gyfan, ar gyfartaledd, yn is na gweddill y DU – ry’n ni dal yn ddibynnol iawn ar y car – ond yn sicr mae Caerdydd yn gwella fel dinas. Ry’n ni’n bell iawn o fod y Caergrawnt neu Bryste nesaf, ond ry’n ni ar y trywydd iawn.
Beth yw’r brif her/rhwystr er mwyn annog mwy o bobl i seiclo yng Nghaerdydd?
Mae angen i ni gynyddu ein darpariaeth o isadeiledd a llwybrau digoel. Mae Llwybr y Taf yn wirioneddol boblogaidd, ond nid oes isadeiledd cynhwysfawr yng Nghaerdydd, sy’n galluogi seiclwyr i fynd o un pen o’r ddinas i’r llall. Yn anffodus, ry’n ni wedi treulio nifer iawn o flynyddoedd yn cynllunio gyda’r car mewn golwg – nid yn unig yng Nghaerdydd ond dros y DU i gyd. Felly, mae’n her enfawr ond mae’r ewyllwys gwleidyddol yn newid, ac mae’r Cyngor – a Llywodraeth Cymru – yn gwneud gwaith da erbyn hyn. Rwy’n edrych ymlaen i weld effeithiau’r Ddeddf Teithio Llesol yn 2014/2015 a’r Rhwydwaith Seiclo Enfys y Cyngor.
Beth yw’r un peth wyt ti’n meddwl fyddai’n annog mwy o bobl i seiclo?
Eleni – mis Mawrth – fe wnaethon ni gomisiynu arolwg YouGov i ddadansoddi agweddau pleidleiswyr at seiclo yng Nghymru (holwyd 1,000 o Gymry i gyd). Yn ôl y canlyniadau, yr hyn sy’n poeni rheini sy ddim yn seiclo, yn naturiol ddigon, yw diogelwch. Er mwyn i ni gynyddu y nifer o seiclwyr yng Nghaerdydd, mae angen i ni brofi fod seiclo yn ddiogel. Gyda therfynau 20mya mewn rhai mannau o’r ddinas yn barod a datblygiad Rhwydwaith Seiclo Enfys, rwy’n obeithiol iawn.
Mi wyt ti newydd symud yma i fyw o Ddylun – a oes mwy o bobl yn seiclo yno a pha fath o brofiad yw e?
Mae seiclo yn Nulyn yn brofiad hollol wahanol – mae gan y Gwyddelod yn eu prifddinas diwylliant seiclo. Ry’ch chi’n mynd i’r gwaith yn y bore, a mae miloedd ar y strydoedd. Ar brydiau, yn enwedig ochrau Grafton St amser Dolig, mae angen ymladd â seiclwyr eraill i gael gafael ar le i gloi’ch beic. Yng Nghaerdydd, dwi’n gweld efallai 15 o seiclwyr ar fy ffordd lawr i’r Bae yn y bore i’r swyddfa. Wrth gwrs, yn 2007, fe wnaeth y Blaid Werdd ffurfio llywodraeth gyda Fianna Fáil. O ganlyniad, fe wnaeth seiclo symud lan yr agenda gwleidyddol a gwelwyd buddsoddiant sylweddol mewn isadeiledd, yr enwog ‘Dublin Bikes’ (system llogi beiciau) a chynllun treth hael yn annog gweithwyr i brynu beiciau. Mae’n bell o fod yr Amsterdam newydd, ond mae’r ddinas yn filltiroedd o flaen Caerdydd.
Sut fath o brofiad yw seiclo o gwmpas Caerdydd yn dy farn di? Beth yw dy brofiad hyd yn hyn?
Wel, dwi’n caru seiclo, felly dwi’n hapus iawn ar fy meic o amgylch Caerdydd. Mae’n rhad. Mae’n gyflym. Ac yn gret am gadw’r pwyse lawr. Dwi’m yn gweld anfantais i fod yn onest. Yn amlwg, dyw e ddim mor bleserus yng nghanol y traffig fan hyn yng Nghaerdydd, oherwydd mae’r lonydd seiclo yn stopio ganol ffordd neu mae coed/sbwriel ar y ffordd, neu mae pot holes mwya enfawr mewn rhai mannau. Ond dwi’n eithaf profiadol erbyn hyn ac yn hyderus iawn, felly mae seiclo ar y heol (yr unig opsiwn mewn nifer o lefydd) ddim yn codi problem. Yr hyn sy’n wahanol, efallai, yw agwedd gyrrwyr. Dy’n nhw ddim yn disgwyl neu’n hoff iawn o seiclwyr ar yr heol. Dwi di cael un dyn yn ymosod arnai ar lafar yn eithaf cas, er gwaetha’r ffaith mai efe oedd ar fai, a dwi erioed wedi cael hynny o’r blaen. Ond dwi’n sicr y bydd hynny’n newid yn y blynyddoedd nesaf. Dyfal donc!
Ble yw dy hoff le i seiclo yng Nghaerdydd?
Llwybr y Taf a lawr y Bae tuag at Penarth.
sylw ar yr adroddiad yma