Gan Meleri Bowen
Wylys, planhigyn wy, neu i chi a fi, aubergine! Cynhwysyn sy’n dueddol o ddychryn rhai yn y gegin gyda’i groen porffor a theimlad rhyfedd.
Beth am roi cynnig ar y rysáit isod ar gyfer eich swper yr wythnos hon? Aubergine wedi ei goginio mewn saws tomato cartref!
Cynhwysion (i fwydo 4 person)
6 tomato
2 garlleg
1 winwnsyn coch, bach
1 winwnsyn brown, bach
1/2 cwpaned (tua 10) o sun dried tomatoes
1 llwy de o oregano
½ cwpaned o basil
½ – 1 cwpaned o ddŵr oer
½ llwy de o halen pinc Himalayan
1 llwy bwdin o olew coconyt
1 aubergine
1 courgette (wedi ei wneud fel spaghetti gan ddefnyddio *spiralizer)
1 cwpaned o sbigoglys
200g o gaws manchego
Dull
1. Rhowch y tomatos, garlleg, winwns, sun dried tomatoes, oregano, basil, dŵr a halen Himalayan mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch i greu saws tomato cartref.
2. Torrwch yr aubergine yn sleisys tenau.
3. Paratowch y courgette gan ddefnyddio spiralizer (neu ei dorri’n sleisys tenau fel yr aubergine os nad oes gennych un).
4. Ffriwch yr aubergine a courgette ar wahân mewn olew coconyt am gwpl o funudau. Estynnwch am ddisgyl pobi.
5. Rhowch haenen o’r aubergine ac yna haenen o’r courgette. Gorchuddiwch ag ychydig o’r saws tomato. Ychwanegwch lond llaw o sbigoglys a chaws manchego wedi ei gratio ac ail adroddwch y camau unwaith eto.
6. Rhowch weddill y saws ar y top a’u orchuddio â’r caws manchego.
7. Pobwch am tua 30 munud ar dymheredd o 150 gradd.
*Mae modd prynu spiralizer mewn llawer o siopau coginio e.e. Lakeland.
Mae Meleri wedi dechrau ysgrifennu blog ei hun o’r enw Melys yn ogystal â chyfrannu i Pobl Caerdydd
sylw ar yr adroddiad yma