Mae un stryd yn Nhreganna yn defnyddio’r ap Whatsapp i uno’r gymuned yn y stryd. Y stori gan Richard Nosworthy
Ces i deisen hyfryd i swper heno. Teisen eirin gyda hufen ia.
Daeth yr eirin o goeden cymydog. Roedd mwy ohonynt fel arfer ar ei choeden eleni. Felly aeth hi i Whatsapp ac anfonodd neges at 21 person oedd yn byw ar y stryd: Hoffech chi eirin?

Y bwced llawn eirin
Dau ohonom ni’n ateb yn syth ac erbyn i fi gyrrhaedd adre o’r gwaith roedd bag mawr yn y gegin.
Dim ond un enghraifft yw hwn o lwyddiant grwp Whatsapp ein stryd yn Nhreganna. Ers iddi gychwyn ym mis Mawrth mae’r grwp wedi dyfod yn ganolog i fywyd ein cymuned bach. Dyma rhai enghreifftiau o’i llwyddiannau:
- Roedd peiriant golchi rhywun wedi torri. Fel mam i blentyn bach roedd hi wir angen cyfle i olchi dillad ar frys. Atebodd sawl person o fewn munudau i gynnig cyfle i ddefnyddio eu peiriannau nhw – llwyddiant cyntaf y grwp!
- Argymell pobl all wneud gwaith yn y ty, megis seiri, trydanwyr ac ati.
- Rhannu gwaith ymchwil am hanes y stryd
- Dymuno penblwydd hapus/gwella’n fuan
- Gwahodd cymdogion i barti
- Rhoi hadau, llysiau a ffrwythau o’r ardd i gymdogion eraill
- Rhoi eitemau amrywiol i ffwrdd megis paent, dodrefn a pheiriant torri gwair
- Cytuno i dderbyn dosbarthiad parsel ar ran cymydog
- Benthyg peiriant glanhau carpedi
- Rhannu gwybodaeth am gyfarfod lleol
- Dod o hyd i bobl i hyfforddi ci
- Osgoi gwastraff bwyd, er enghraifft rhoi llaeth a iogwrt i ffwrdd
- Ffarwelio a chymdogion sy’n symud mas, a chroesawu pobl newydd
Efallai un o’r digwyddiadau mwyaf trawiadol oedd ymateb y stryd i’r refferendwm ar Brexit. Dechreuwyd trafodaeth yn y grwp Whatsapp a phenderfynodd grwp o bobl gwrdd yn y stryd un noson er mwyn cael ‘sgwrs go iawn’ gyda diodydd!
Ta beth, doeddwn i ddim yn disgwyl i’r syniad fod mor llwyddiannus.
Rwy’n hapus i roi cyngor i unrhyw un sydd yn ystyried sefydlu grwp ei hunan.
Gan Richard Nosworthy / Twitter: @rich_nosworthy
sylw ar yr adroddiad yma