Adolygiad Dyfrig Ellis o Under Milk Wood : Cynhyrchiad Theatr Clwyd yn y Theatr Newydd
Mae’n ddigon posibl mai fi yw un o’r creaduriaid prin hynny, o fy nghenhedlaeth i sydd wedi osgoi astudio O Dan y Wenallt (Under Milk Wood), nac unrhyw waith arall o waith Dylan Thomas o ran hynny . Mae yna fwlch amlwg iawn yn fy datblygiad diwylliannol, un yr ydw i wedi difaru peidio gwneud unrhyw beth am dano, tan yn ddiweddar. Felly gyda chymysgedd o anesmwythder a chyffro fy mod yn mynd i weld cynhyrchiad newydd o waith enwocaf yr awdur, dyma gyrraedd y New Theatr. Roeddwn i’n edrych ymlaen at gael gweld dros fy hun beth yn union oedd yr holl ffws, a beth oedd gan Myfanwy Price, Mrs Ogmore-Pritchard a gweddill trigolion Llareggub i gynnig i mi.
Gweu delweddau
Profodd y noson i fod yn un cyfoethog ac emosiynol iawn. O’r funud y cymerais i fy sedd, llwyddodd y set i fy nghludo i yno. Wrth i’r monolog agoriadol enwog cael ei gyflwyno yn nhonnau soniarus Owen Teale teimlais fy mod i rywsut yn un o drigolion pentref cysglyd Llareggub. Roedd presenoldeb carismataidd Teal yn hudolus drwyddi draw fel adroddwr y llais cyntaf wrth iddo i mi ryfeddu ar wead a phŵer delweddau ieithyddol Thomas am y tro cyntaf. Roedd yn amlwg iawn, wrth sylwi ar adwaith llawer o’r gynulleidfa, eu bod yn gyfarwydd iawn â ‘r gwaith, wrth iddynt ymateb â phleser aruthrol i gynildeb a naws trosiadau ac ymadroddion Thomas. Fodd bynnag, er nad oeddwn i’n gyfan gwbl gyfarwydd â’r deunydd, cefais fy swyno’n fuan iawn gan gymeriadau lliwgar Llareggub wrth i mi ddod i’w hadnabod yn dda dros gyfnod o 24 awr.
Ysgrifennodd Dylan Thomas y gwaith yn wreiddiol ar gyfer radio, ac mae’n siŵr bod nifer yn gyfarwydd â dehongliad Richard Burton ar gyfer y BBC yn 1963. Mae llwyddiant unrhyw waith radio yn aml yn nwylo dychymyg y gwrandäwr, ac mi wn fod nifer yn y gynulleidfa yn poeni y byddai’r hud gwreiddiol yn cael ei golli mewn perfformiad theatrig. Ond doedd dim angen gofidio. Un o fanteision clir cynhyrchiad llwyfan yw’r elfen ychwanegol o hiwmor gweledol sy’n cael ei defnyddio’n effeithiol i atgyfnerthu’r testun gwreiddiol. Mae Steven Mao, Sophie Melville a Richard Elfyn yn cynhyrchu rhai eiliadau amlwg iawn o ddoniolwch gwych.
Geiriau llawn hud
Yn achos y cynhyrchiad hwn, mae’r trosglwyddiad yn llwyddiannus. Mae cymeriadu cywrain y cast yn sicrhau nad yw’r elfen Gymraeg yn y farddoniaeth yn cael ei foddi gan ystrydeb wrth iddynt lwyddo i sicrhau bod y geiriau yn gwehyddu eu hud eu hunain. Mae cyfraniadau niferus Christian Patterson yn creu llif naturiol wrth iddo gysylltu trywyddau niferus perthynas y cymeriadau. O dan gyfarwyddyd profiadol Terry Hands, mae’r llwyfannu syml a’r coreograffi slic eithriadol yn sicrhau bod yr 11 actor yn llwyddo i bortreadu’r 68 cymeriad gwahanol. Trwy ystum, llais a goslef, llwyddant i wneud hynny mewn modd diwnïad ac amlwg i’r gynulleidfa. Mae pob cymeriad i’w gweld ar y llwyfan o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r set gynnil ond dyfeisgar sy’n cynnwys ychydig o gadeiriau a llwyfan hanner cylch, gyda delwedd o’r pentref cyfan fel cefndir, yn rhan allweddol o’r cyflwyniad.
Mae’n amhosib i ni ddod i adnabod pob cymeriad gyda’r un dyfnder. Serch hynny mae pob actor yn cael cyfle i ddisgleirio. Mae cân swynol Katie Elin sy’n portreadu Polly Garter, amseru comig gwych Meo fel Sinbad a’r rhamant swynol rhwng Mr Pugh ( Richard Elfyn ) a Myfanwy Price ( Caryl Morgan ) yn aros yn gofiadwy iawn..
Mae’r cynhyrchiad yn nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 1914 yn ogystal â 60 mlynedd ers y perfformiad Prydeinig cyntaf. Mae hefyd yn nodi fy nghyflwyniad cyntaf i waith gwr ifanc a bu farw mor afresymol o fuan yn 39 mlwydd oed. Ces i gwmni fy mam yng nghyfraith yn y cynhyrchiad yn y New Theatre, ac fe nododd hi hefyd fod y ddrama yn gynhyrchiad ‘teilwng iawn o waith o athrylith’. Yn sicr, fe gafodd y cynhyrchiad y ‘Dylanwad’ angenrheidiol arna i gan fy ngadael i eisiau mwy. Bellach, dwi hanner ffordd trwy ‘A Portrait of the Artist as a Young Dog’ a galla’ i ddim meddwl am ganmoliaeth uwch i roi i unrhyw gyflwyniad theatrig – #convert.
sylw ar yr adroddiad yma