Caerdydd 1 Chelsea 2 gan Gwenda Richards
Wel, dyna ni. Ma cyfnod tîm peldroed Caerdydd ‘yn yr haul’ wedi dod i ben. Y tymor ddechreuodd yn llawn cyffro a gobaith gyda’r fuddugoliaeth anhygoel yn erbyn y pencampwyr Man City fis Awst diwethaf, wedi gorffen yn ddi fflach, gyda charfan Jose Mourinho yn cipio triphwynt yn stadiwm Caerdydd ddydd Sul.
”You’re not special any more”canai’r dorf wedi i Craig Bellamy roi’r Adar Gleision ar y blaen ar ôl chwarter awr – ac am yr hanner cyntaf roedd ‘na deimlad taw Ole Gunnar Solskjaer oedd yr un arbennig. Roedd y ddau reolwr i’w gweld yn siarsio’r timau yn ystod yr ugain munud cyntaf. Ond fe ddiflannodd Ole o’r asgell ar ôl sbel gan adael y Special One ar ei ben ei hun ar y llinell i weiddi cyngor a chefnogaeth i’w dîm drwy gydol y gêm. Falle doedd dim cyngor gan Ole i roi i’r crysau coch mwyach a bod ei blwc wedi chwythu er gwaetha’r gwynt oedd yn chwyrlio o gwmpas y stadiwm.
Doedd dim yn y fantol i Gaerdydd, na Chelsea chwaith, mond hunan barch. Gyda ‘r sicrwydd y byddai dyfodol Caerdydd yn ymuno â Fulham a Norwich yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf wedi hen benderfynu, fe ddechreuodd y gêm yn eithaf cyffrous.
Caerdydd yn ymosod yn dda i lawr yr asgell chwith gyda Declan John, chwaraewr ifanc y flwyddyn a’r hen ben Craig Bellamy yn cyfuno’n dda. Ar yr asgell arall roedd Fabio, sydd yn rhwystredig o oriog, yn chwarae’n llawer gwell gyda Jordan Mutch a Fraizier Campbell yn cyfuno unwaith eto.
Daeth y gôl wedi i’r bêl symud o un ochr y cae i’r llall a Peter Whittingham yn pasio i Craig Bellamy ar yr asgell chwith. Rhedodd e ffwl pelt am y gôl a tharo’r bel tu allan i’r blwch cosbi. Drwy lwc roedd un o chwaraewyr Chelsea yn sefyll yn y ffordd a gwyrodd y bel oddi arno i’r rhwyd. Oedd Caerdydd mynd i efelychu’r perfformiad ddechrau’r tymor? Em……….. nagoedden. Ar ôl y gôl yma , aeth pethau o chwith i Gaerdydd, gyda Chelsea, oedd fel tase’n nhw’n chwarae mewn ail gêr, yn pasio’r bêl nol ag ymlaen, yn aros yn amyneddgar tan yr amser oedden nhw’n gallu taro fel nadroedd gwyllt. Er gwaetha arbediad ffantastig David Marshall, Chwaraewr y flwyddyn heb dowt, daeth y bel oddi ar y bar i draed André Schürrle oedd wedi eilyddio John Obi Mikel
Mater o amser oedd e cyn i Chelsea sgorio eto. gyda Fernando Torres yn cicio’r bel o ganol y cwrt cosbi i dop y rhwyd.
Roedd hwnna wedi bod yn loncian ambiti’r cae fel rhywun oedd yn well ganddo fod yn siopa, cysgu, unrhyw beth na fod ar gae peldroed drwy gydol y gêm, ond fe darodd y bel yn dwt a …. na fe’r gêm drosodd a chau pen y mwdwl ar dymor byr hoedlog Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.
Gyda Ole yn siarad am y potensial y tymor nesaf mae ganddo bwynt: mae chwaraewyr ifanc fel Mats Daehli, Declan John a Craig Noone yn addawol iawn. Roedd David Marshall yn arbennig yn y gôl a Steve Caulker yn gadarn ond gyda Brendan Rogers ar ei ôl does dim sicrwydd fydd e yn aros y tymor nesaf.
Felly beth aeth o’i le mewn tymor lle ennillodd yr Adar Gleision saith gêm yn unig. Yn syml iawn doedd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr ddim yn ddigon da. Mewn 37 gem yn yr Uwch Gynghrair dim ond chwech gôl mae Frazier Campbell, y prif streicer wedi sgorio. Cafodd prif ymosodwr Abertawe, Wilfried Bony 16 y tymor hwn. Prynodd Malky Mackay a Ole chwaraewyr wnaeth ddim i hybu llwyddiant y tîm. Roedd ymddangosiad Andreas Cornelius megis seren wib. Er mor ddiwyd mae Gary Medel ynghanol y cae, dyw e ddim wedi sgorio nac yn edrych fel petai’n mynd i sgorio unrhwy ddiwrnod o nawr tan ddydd y farn. Roedd gymnasteg Kenwyne Jones ar ôl sgorio yn erbyn Norwich yn syfrdanol, ond na’r tro olaf i mi weld y fath ymdrech ganddo. Ni wariodd y ddau arian ar be oedd wir angen ar y tîm sef chwaraewr oedd yn gallu sgorio golau’n rheolaidd.
Mae Ole wedi arbrofi gyda nifer o chwaraewyr gwahanol ond a oes ganddo wir crebwyll tactegol? Ar brydiau roedd pasio Caerdydd yn erchyll a phrin oedd y nifer o siots at y gôl ymhob gêm. Anaml oeddwn yn cael y teimlad fod na bartneriaeth yn cynnau rhwng y chwaraewyr- eu bod nhw’n chwarae fel un carfan gref.
Ond ambell waith roedd na fflach o obaith sy’n ddigon i gynnal y ffans tryw . Roedd y stadiwm yn llawn ddydd Sul a’r terasau’n fôr glas. Er gymaint yw eu siom o orfod wynebu’r tymor nesa yn erbyn timau fel Brentford a Huddersfield yn lle Arsenal a Manchester United, mae pwysau o du’r cefnogwyr wedi hala Vincent Tan i awgrymu efallai y bydd yn newid ei feddwl os wneiff Adar Gleision esgyn i’r Uwch Gynghrair unwaith eto.
Mae’r eisteddle newydd yn codi ac yno fyddai’n gwylio y tymor nesa- ac yn ôl T Gwynn Jones, ” Byw yno byth mae pob hen obeithion, Yno mae cynnydd uchel amcanion.”
sylw ar yr adroddiad yma