Mae’r tymor rygbi newydd ar fin dechrau nid yn unig i ranbarthau Cymru ond hefyd i glybiau llai y wlad megis ni: Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.
Llynedd oedd ein tymor cyntaf ni yn Adran 4 y De Ddwyrain, ac ar ôl gorffen yng nghanol y tabl ar ddiwedd y tymor, mae’r haf wedi bod yn un prysur. Mae cyfnod Keri P Evans wedi dod i ben fel prif hyfforddwr y clwb ar ôl 4 tymor llwyddianus iawn. Diolch i Keri am ei holl waith caled – dwi’n siwr y bydd e’n dal i gefnogi a mwynhau ei amser yn gwylio gemau CRCC o’r ystlys. Ma gweddill y tim hyfforddi yn aros yr un fath.
O rhan chwaraewyr, rydym wedi llwyddo i ddenu ambell i wyneb newydd i’r garfan eleni, ac mae gennym cyswllt cryf gyda Medics Caerdydd , Ysgol Glantaf a mewnfudwyr i’r Brifddinas. Rydym wedi croesawu bron i ddwsin o fois newydd a ma’r niferoedd sy’n ymarfer dros yr Haf wedi bod yn uchel iawn. Popeth yn argoeli’n dda ar gyfer tymor newydd felly!
Owain Tudur yw capten y tîm cyntaf am yr ail flwyddyn ac Osian Jones yw capten newydd yr ail dîm. Prif Noddwyr y clwb ar gyfer tymor 2013/14 yw New Directions (Addysg) – diolch iddyn nhw am y gefnogaeth ac i weddill ein noddwyr.
Bydd y tîm cyntaf yn dechrau’r tymor i ffwrdd yn Y Barri a’r ail dîm adre ar Gaeau Llandaf yn erbyn St Josephs Ddydd Sadwrn yma, Medi’r 7fed. Y ddwy gêm i ddechrau am 2.30pm. Dewch i wylio ac i gefnogi. Tafarn y Duke ar Clive Rd yw cartref y clwb bellach ac ma croeso cynnes i bawb.
Am fwy o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf ewch i clwbrygbi.com a chysylltwch â ni hefyd os ydych wedi chwarae i’r clwb yn y gorffennol. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn creu rhestr o gyn-chwaraewyr a hefyd wrthi’n trio denu is-lywyddion newydd i’r Clwb.
Cofiwch hefyd am adran iau CRCC sy’n cwrdd ar Gaeau Llandaf bob bore Sul.
Pob lwc i holl chwaraewyr y clwb yn ystod y tymor newydd. Ymlaen CRCC!
clwbrygbi@hotmail.com
sylw ar yr adroddiad yma