“…dyma’r stori fwya’ afaelgar, gwefreiddiol i mi glywed ers amser maith – os erioed falle.”
Adolygiad Elinor Gwynn ar raglen Dewi Llwyd (13/07/14).
Datganiad Cwmni’r Fran Wen
Yn dilyn ymateb “anhygoel” yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, mae monolog bwerus a dirdynnol gan yr awdur Aled Jones Williams yn cyrraedd Caerdydd wythnos nesaf (22 a 23 Gorffennaf).
Ffion Dafis sy’n perfformio yn Anweledig, act gyntaf o ddrama newydd sydd yn ymateb i brofiadau cleifion hen ysbyty meddwl Dinbych.
Mae’r fonolog, sy’n cael ei chyfarwyddo gan Iola Ynyr, yn dilyn profiad dynes ganol oed yn wynebu iselder dwys. Mae anallu’r bobl o’i chwmpas i ddeall y salwch yn ategu at wewyr meddwl Glenda.
Disgrifiodd yr adolygydd theatr, Lowri Haf Cooke, y perfformiad fel “uchafbwynt Eisteddfod Genedlaethol Dinbych.”
“Roedd pobl yn fodlon dod ata i a dweud bod y geiriau wedi eu cyffwrdd,” meddai Ffion Dafis, sydd newydd orffen cyfarwyddo ei drama theatr gyntaf, ‘Y Negesydd’.
“Mi ddywedodd un hogan wrtha i ei bod hi wedi dioddef ers blynyddoedd o iselder a’i bod hi wedi methu rhoi geiriau iddo ac yn methu esbonio, a bod Aled wedi ffeindio’r geiriau i esbonio sut oedd hi’n ei deimlo.”
Cwmni’r Frân Wen sydd wedi ymateb i gais gan ddoctoriaid seiciatryddol ym Mangor i gael golwg ar rai o gofnodion meddygol yr hen ysbyty meddwl yn Ninbych — a hynny er mwyn creu gwaith creadigol newydd.
Dyma nhw’n meddwl yn syth am Aled Jones Williams fel un â’r gallu a’r sensitifrwydd — ac yn wir y profiad hefyd — i greu drama bwerus o ffeithiau meddygol moel.
Dim ond cam cyntaf yn y project yw hwn — act gyntaf mewn tair. Drama gyfan yw’r nod a fydd yn rhoi llais a llwyfan i salwch sydd yn rhy aml yn cael ei guddio a’i gadw o’r golwg.
Anweledig yw teitl y project sy’n parhau hefo Cwmni’r Frân Wen. Gwneud yr anweledig yn weladwy yw eu bwriad.
“Dwi’n gobeithio mai dim ond y gwreiddiau sydd wedi cael eu plannu yn yr Eisteddfod, ac y bydd y blagur a’r blodau yn cael eu rhoi ar y daith yma,” ychwanegodd Ffion.
I gyd-fynd â’r daith ddiweddaraf , mae Lisa Jên Brown wedi ei chomisiynu i gyfansoddi cerddoriaeth gefndirol i’r perfformiad.
Mae nifer y gynulleidfa wedi ei chyfyngu ym mhob perfformiad, felly archebwch docynnau yn fuan i osgoi cael eich siomi.
* Stiwdio Gibson, Coleg Cerdd a Drama, Caerdydd 22 (7.30pm) & 23 (7.30pm) Gorffennaf. Am fanylion www.anweledig.com neu 01248 715 048.
sylw ar yr adroddiad yma