Gan Meleri Bowen
Mae’r cyffur anelwig a elwir yn siwgr yn rhywbeth ry’ ni’n dyheu’n rheolaidd. Mae’n gyfrwys ac yn cuddio mewn llawer o fwydydd heb i ni wybod. Mae’n medru achosi crychion ar eich wyneb rhy gynnar oherwydd ei effaith ar y colagen, sychu’ch croen gan ddadhydradu’ch celloedd ac achosi salwch ar y galon.
Beth am droi at felysyddion mwy naturiol wrth goginio?
Dwi’n hoffi defnyddio maple syrup yn fy ryseitiau melys a hynny oherwydd ei fod yn felysydd naturiol. Mae’n cydbwyso lefelau siwgr y corff ac yn un da os oes gennych glefyd siwgr.
Mae siwgr coconyt yn un arall sy’n dda i ryddhau egni’n araf. Nid yw’n rhoi’r highs a’r lows fel siwgr arferol.
Dwi’n obsessed â medjool dates! Maen nhw’n wych fel melysydd gwahanol ac yn dda fel byrbryd ganol pnawn gydag ychydig o fenyn almwn (almond butter). Mae’r datys yma yn dda i’ch system dreulio ac yn cynnwys llawer o ffeibr.
Ond fel popeth melys, byddwch yn synhwyrol!
Wwwww diolch am y tip Mel! Wrth fy modd gyda coconuts, felly na I drio hwn!