Caerdydd 2 Sheffield Wednesday 1
Gan PDWB
Bydd cefnogwyr Caerdydd yn gobeithio bod y fuddugoliaeth yma yn nodi tro ar fyd yn helynt diweddar y clwb. Dyw un fuddugoliaeth ddim yn golygu llawer ond efallai bod ‘na arwyddion bach bod pethau’n dechrau gwella wedi ymadawiad Solskjaer. Ar ôl ennill pwynt i ffwrdd yn erbyn Derby yn eu gem diwetha, dyma tri phwynt arall yn erbyn tîm sy wedi bod yn cael tipyn o lwyddiant yn yr adran yn ddiweddar.
Diolch i goliau gan Morrison a Pilkington, eu goliau cynta i’r clwb, enillodd yr Adar Gleision am y tro cynta ers tipyn. Ac ar ôl y cyfan sy wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwetha, roedd e’n bwysig iawn i sicrhau buddugoliaeth, sdim ots sut gafon nhw’r fuddulogiaeth honno. Hyder yw popeth ym myd chwaraeon ac roedd e’n ddiddorol i weld y gwahaniaeth yn chwarae sawl un yn y tim cartre ar ol iddyn nhw fynd ar y blaen.
Hefyd roedd dylanwad y tim rheoli dros dro, Scott Young a Danny Gabbidon, yn amlwg yn y perfformiad. Dau gyn amddiffynwr profiadol y clwb, wrth gwrs, sy siwr o fod wedi bod yn gweithio’n galed i wella pethau yn y cefn. Ac i fod yn deg roedd yr amddiffyn yn edrych yn llawer mwy cadarn nac yn y gemau diweddar. Chwaraeodd cefnwr canolog newydd Manga’n dda ochr yn ochr a Morrison a bydd pawb yn gobeithio bod y Gleision wedi ffeindio par solet yn y cefn o’r diwedd. Roedd Morrison yn anlwcus i sgorio ‘own goal’ i wneud y sgor yn gyfartal 1-1, ac am gwpl o funudau roedd e’n hawdd dychmygu’r to’n cwympo mewn eto. Ond chwarae teg i Gaerdydd dangoson nhw’r fath o gryfder sy wedi bod yn absennol o’u chwarae ers y Nadolig.
Pan ddaeth yr eilydd Ravel Morrison ar y cae yn yr ail hanner dangosodd y chwaraewr sy ar fenthyg o West Ham, sgiliau arbennig. Os bydd ei agwedd yn iawn yn ystod ei dri mis gyda’r clwb bydd yn gaffaeliad mawr.
Bydd y rheolwr newydd, Russell Slade, yn cymryd yr awennau yr wythnos yma a dyw hi ddim yn rhy hwyr i Gaerdydd droi eu tymor rownd os yw e’n gallu cael y gorau mas o’r garfan enfawr mae e wedi etifeddu.’Yn ni dal i gredu!
Seren y Gem: Fabio da Silva
sylw ar yr adroddiad yma