Caerdydd 1 West Bromwich Albion 0
Adroddiad Gwenda Richards
Ym myd pel droed heddiw mae’r ffin rhwng llwyddiant a methiant yn mynd yn un fwy fwy cul. Tase Caerdydd wedi colli yn erbyn West Brom ddydd Sadwrn fe allai Malky Mackay fod yn chwilio am swydd arall yn y Flwyddyn Newydd. Ond yn y diwedd Caerdydd ennillodd a rheolwr West Brom, Steve Clarke, oedd ar y clwt nos Sadwrn.
Mae’n ddwl fel mae dyfodol clwb yn gallu dibynnu ar un penderfyniad y dyfarnwr, arbediad anhygoel, cic dros y bar neu gôl wych, ond dyna wirionedd pel droed ar hyn o bryd. Er mawr rhyddhad i Malky a chefnogwyr yr Adar Gleision aeth popeth o blaid Caerdydd ddydd Sadwrn.
Chwarae bywiog
Gyda’r ddau dîm yn ysu am bwyntiau roedd hon yn gêm pwysig. Doedd Caerdydd ddim wedi sgorio ers dros 300 munud- roedd angen pwyntiau – a pherfformiad gwell na’r hyn yn erbyn Crystal Palace wythnos yn ôl.
Dechreuodd y tîm cartref gydag arddeliad- yn llawn hyder ac yn fywiog. Roedd penderfyniad Malky i roi Craig Noone yn y tîm o’r dechrau yn taro deuddeg. Mae Noone yn boblogaidd gyda’r ffans oherwydd ei fod o hyd yn barod i herio’r gwrthwynebwyr, yn rhedeg tuag atyn nhw’n gyflym ac uniongyrchol. Dyw e byth yn rhoi’r gorau iddi ac fe roedd ei ymdrechion i’w groesawi o’i gymharu a’r pasio lletdraws pwyllog sydd yn rhy gyfarwydd erbyn hyn.
Roedd yn rhaid i golwr Cymru Boaz Myhill fod ar ddihun yn gynnar iawn i arbed cic rydd Caerdydd. Tase’r bêl wedi croesi’r linell fyddai neb yn siwr pwy sgoriodd gan fod Peter Whittingham a Peter Odemwingie yn ymddangos o fod wedi taro’r bel ar yr un pryd.
Gôl prin
Doedd West Brom yn fawr o fygythiad yn yr hanner cyntaf ac reodd yn hawdd gweld pam eu bod yn straffaglu yn yr Uwchgynghrair. I ddweud y gwir doedd yr un dîm na’r llall yn edrych fel sgorio tan i’r gôl ddod ar ôl awr o chwarae cyffroes ond bler.
A phan ddaeth hi roedd hi’n un i drysori. Mae goliau oddi ar ben Whittingham yn fwy prin na chardiau Nadolig rhwng gefnogwyr Caerdydd a’r Swans, ond fe neidiodd i ddodi croesiad Noone yn y rhwyd , fel Toshack neu Brian Clarke slawer dydd.
Fe ddihunodd WBA ac ar ddiwrnod gwahanol fe allen nhw fod wedi sgorio o leiaf un gôl. Unwaith eto fe wnaeth David Marshall arbediad gwych arall i ychwanegu at y nifer mae wedi gwneud y tymor hwn. Fe ddaliodd City ei gafael ar y gêm a sicrhau tri phwynt gwerthfawr iawn – a swydd Malky.
Adroddiad arbennig o dda oedd yn llwyddo i
gyfleu cyffro’r gem a’r rhyddhad o weld yr adar gleision
yn cipio tri phwynt hynod o werthfawr.