Mae plant ledled y ddinas yn cael eu hysgogi i gael ‘blas’ ar ddarllen wrth i lyfrgelloedd Caerdydd gydweithio â’r arbenigwyr hufen iâ, Joe’s, i annog pobl ifanc i ddarllen mwy.
Bydd darllenwyr ifanc sy’n ymweld â Hyb Trelái a Chaerau neu Lyfrgell Pen-y-lan dros yr ychydig wythnosau nesaf yn gallu cofrestru i gymryd rhan yn yr her Hufen Geir-Iâ.
Bydd rhaid iddyn nhw ddarllen tri llyfr mewn tair wythnos, a’r wobr yw sundae hufen ia o Joe’s ar Wellfield Road.
Ar ôl cofrestru ar gyfer y dasg flasus hon, gall plant 4 i 12 oed alw yn eu llyfrgell leol i ddewis eu llyfrau ond bydd rhaid iddynt ddychwelyd i Drelái a Chaerau neu Ben-y-lan ar ôl darllen y tri llyfr i gasglu eu taleb hufen iâ Joe’s.
Mae’r her eisoes wedi dechrau ac mae gan y bobl ifanc tan ddydd Llun, 9 Tachwedd i ddarllen eu llyfrau.
sylw ar yr adroddiad yma