Mae’r traeth yn ôl! Bydd Caerdydd unwaith eto yn creu glan y môr ei hun gyda dychweliad Traeth Bae Caerdydd Capital FM o ddydd Gwener 28 Gorffennaf tan ddydd Sul 3 Medi.
Bydd yr atyniad yn Roald Dahl Plass yn cynnwys traeth tywodlyd mawr, ardal chwarae dŵr bas, amrywiaeth o reidiau a gemau, olwyn fawr gyda golygfeydd godidog ar draws y bae, adloniant byw rhad ac am ddim, bwyd a diod gwych, a chadeiriau dec traddodiadol ar gyfer ymwelwyr i ymlacio allan yn haul yr haf.
Bydd mynediad i Draeth Bae Caerdydd yn rhad ac am ddim, ac mae cyfleusterau taladwy ar gael ar y safle.
Bydd y traeth ar agor rhwng 10am a 8pm o ddydd Sul – ddydd Iau, a rhwng 10am a 10pm dydd Gwener a dydd Sadwrn.
Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y Traeth, ar Twitter (@thebaybeachcdf) a Facebook.
sylw ar yr adroddiad yma