Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn wynebu diffyg cyllidebol o £124 miliwn dros y tair blynedd nesaf, ac mae wedi dechrau’r ymgynghoriad ar ei gynigion cyllidebol ar gyfer 2015/16. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para tan ganol dydd, dydd Llun 12 Ionawr 2015.
Mae’r holl wybodaeth am yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn www.caerdydd.gov.uk/cyllideb ac er mwyn ceisio esbonio’r sefyllfa ariannol heriol a wynebir, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu fideo byr ar y diffyg cyllidebol o £124m.
Os oes diddordeb gennych mewn dweud eich dweud ar y cynigion hyn, gallwch gymryd rhan drwy wneud y canlynol:
- Llenwi’r holiadur ar-lein
- Llenwi copi papur o’r holiadur. Byddant ar gael mewn Hybiau, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden lleol.
- Cyfrannu at y drafodaeth ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #cyllidebcdydd, neu ddilyn @CyngorCaerdydd a @SgwrsCaerdydd
Os oes unrhyw ymholiadau gennych am broses yr ymgynghoriad ar y gyllideb, mae croeso i chi gysylltu â’r Cyngor ar cyllideb@caerdydd.gov.uk.
Dyma gyfle Pobl Caerdydd i fynegi barn ar y cynigion – manteisiwch ar y cyfle!
sylw ar yr adroddiad yma