Mae Ashok Ahir wedi dysgu Cymraeg ac eleni mae’n cyflwyno rhaglen Tu ôl i’r Llen Cariad@Iaith ar S4C , yma mae’n rhoi syniadau a tipiau ar gyfer dysgwyr Pobl Caerdydd
Canolbwyntio ar siarad Cymraeg cyn dechrau poeni am sut i ysgrifennu yn Gymraeg.
Dysga eiriau newydd bob wythnos a cheisia ddefnyddio nhw mewn unrhyw sgwrs.
Dyw Cymraeg ddim yn iaith dramor – ble bynnag ti’n byw chwilia am lefydd a chyfleodd i siarad yn Gymraeg.
Dysga eiriau a brawddegau sy’n berthnasol i ti – gwaith, teulu, ffrindiau, diddordebau, rhaglenni teledu – unrhyw beth sydd o ddiddordeb a sy’n bwysig i ti.
Darllen — erthyglau, llyfrau bach – jyst defnyddia eiriadur neu ApGeiriaduron i dy helpu gyda’r darnau anodd.
Pan wyt ti’n mewn sefyllfa gyda phobl sy’n siarad Cymraeg cofia ddweud wrthyn nhw i barhau i siarad yn y Gymraeg – hyd yn oed os nad wyt ti’n ddigon hyderus i siarad Cymraeg dy hun gelli ymuno yn y Saesneg nes dy fod yn dysgu mwy.
Yna pan wyt ti’n gallu siarad eitha’ rhugl gwna’n siŵr bod siaradwyr Gymraeg yn gwybod hynny — tro’r sgwrs i Gymraeg os ydyn nhw’n dechrau siarad yn Saesneg.
Os yw dy blant yn mynd i ysgolion Cymraeg cofia ddarllen/siarad gyda’n nhw a dysgu geiriau gyda’ch gilydd.
Os ti’n gallu siarad yn eithaf rhugl tria ysgrifennu e-byst bach yn Gymraeg gan ddefnyddio Cysill a Geiriadur arlein neu ApGeiriaduron ar ffon/tabled.
A’r peth mwyaf pwysig – Siarad, Siarad, Siarad
Dyma syniadau ardderchog i wella a defnyddio’ch Cymraeg.Llongyfarchiadau Ashok ar raglen dda iawn hefyd.