Adroddiad Gwenda Richards
Ys dywed Max Boyce – Ro’n i yno!! Pwy fyse’n meddwl y bydde’r Adar Gleision yn curo un o gewri’r Uwch Gynghrair – a hynny yn eu gêm gartref gynta’r tymor!
Os gafodd breuddwydion selogion Parc Ninian i esgyn i’r Uwch Adran eu gwireddu y tymor dwethaf, roedd buddugoliaeth haeddiannol Caerdydd dros Manchester City ddydd Sul, yn hala’r ffans i gredu eu bod nhw wedi esgyn i’r nefoedd!
I fod yn onest o’n i, a llawer o ffans o’n i’n sgwrsio gyda yn y bar cyn y gêm, yn credu taw cweir fydde’n ni’n cael oddi wrth dîm oedd wedi gwario bron i £100m yr haf yma ar gryfhau sgwad oedd eisioes yn llawn o sêr fel Ya Ya Toure, David Silva a Edin Dzeko. Ond ar hanner amser gyda’r sgôr yn ddim yr un, roedd na lygedyn o obaith. Roedd Manceinion yn bihafio fel tîm oedd yn credu eu bod nhw’n haeddu ennill. Ond roedd chwaraewyr Caerdydd ar dan, fel eu crysau tanllyd coch, ac yn dilyn cyfarwyddiadau Malky Mackay i’r dim.
Er i Fanceinion sgorio’n gynnar yn yr ail hanner gyda gôl wych gan Dzeko, roedd na rhywbeth yn chwarae’r Adar Gleision oedd yn awgrymu nad oedden nhw’n barod i ildio mor gyflym. Ac roedd y ffans yn credu hefyd. Mor gynted a ddechreuodd y chwarae ar ol gôl Dzeko, dechreuodd y dorf ganu. Roedd amddiffynwyr Man City yn eitha sigledig, ac ar yr awr gwelon ni symudiad arbennig gyda Bo-Kyung Kim yn gwibio heibio Gael Clichy ac yn cicio’r bêl yn isel tuag at Campbell ‘nath saethu ac fe fanteisiodd Gunnarsson ar arbediad tila Joe Hart drwy ergydio’r bêl dros y llinell.
Roedd Hart unwaith eto ar fai pan nath Whittingham gyrlio cic gornel at y gôl. Methodd Hart gael gafael ar y bêl a cododd Frazier Campbell i benio’r bêl i’r rhwyd. Erbyn hyn roedd y Stadiwm ar dân. Fe drodd y ffans eu cefnau at y maes chwarae- ac efylychu ffans Man City wrth ddawnsio ‘r Poznan! Er i David Silva a Samir Nasri ymosod, roedd Steven Caulker a Turner yno i wrthsefyll. Ar yr asgell chwith fe enillodd Whittingham gornel, ac roedd ar fin cymryd y gic, pan newidiodd ei feddwl a gadael i Don Cowie oedd wedi eilyddio Craig Bellamy, ergydio tua’r gôl. Dihangodd Campell o afael Pablo Zabaleta a Garcia, a phenio ‘r bêl i ganol y gôl.
Ar ddiwedd 90 munud roedd Caerdydd ar y blaen o dair i un!!! Methu credu! Roedd yr haul yn gwenu a gwên ar wyneb pawb ond cefnogwyr Manceinion. Dechreuodd pawb floeddio yn erbyn dyfarniad y pedwaredd swyddog, Lee Mason, fod chwe munud o amser ychwanegol i’w chwarae. Ewinedd? Roedd rhain i gyd wedi’i cnoi i’r byw!
Pan amneidiodd Negredo i benio gôl o groesiad David Silva, roedd cefnogwyr Caerdydd i gyd yn erfyn yn daer ar Lee Probert, y reffarî, i chwythu’r chwiban olaf. A dyna fuodd—- Tair gôl i Ddwy. Fe weda i hwnna eto. TAIR GÔL I DDWY!!!. Ac ro’n i yno!
sylw ar yr adroddiad yma