Mae’r band ‘The Script’ wedi cyhoeddi bod eu taith fyw yn dod i Gaerdydd.
Fis Chwefror mae’r grwp Gwyddelig yma yn cychwyn taith arena o amgylch y DU gan ddechrau yn Glasgow ar yr 20fed ac yn cyrraedd Caerdydd ar Fawrth 2il.
Y gwestai gwadd arbennig sydd yn ymuno a’r band ar y daith yma yw Labyrinth.
Bydd y tocynnau ar werth dydd Gwener 26ain Medi am 9:30 y bore drwy’r swyddfa docynnau: 029 20 22 44 88.
Pris y tocynnau yw £27.50 a £35, yn ogystal â ffioedd archebu, mae’r tocynnau yn cael eu cyfyngu i 6 yr un.
sylw ar yr adroddiad yma