Mae cwmni Loving Welsh Food yn cynnig teithiau “Blas y Brifddinas” i gydfynd â Tafwyl eleni.
Gallwch brofi blasau gwahanol Caerdydd tra’n cerdded o gwmpas a mwynhau golygfeydd y brifddinas. Ar y fwydlen mae caws, charcuterie, cwrw, bara lawr a chewch ddysgu tipyn am hanes Caerdydd ar yr un pryd.
Ymhlith y llefydd mae’r daith yn ymweld â nhw mae stondyn Ashton yn y Farchnad, Wally’s a Bar 44.
Bu rhaglen Prynhawn Da S4C yn ffilmio ychydig o’r daith. Cewch gyfle i’w weld yma
Fydd y teithiau tywys Tafwyl ar Ddydd Sadwrn 25 Mehefin a Dydd Mawrth 28 Mehefin.
Pris: Oedolion £35 ; Plant: £17.50 (addas i blant dros 12)
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Loving Welsh Food, cwmni sy’n cael ei redeg gan Siân Bassett Roberts. I archebu tocynnau neu dalebau ewch i wefan Merchants of Wales.
sylw ar yr adroddiad yma