Mi fydd Clwb Mynydda Cymru yn mynd ar daith o gwmpas Abaty Tyndyrn yng Ngwent, dydd Sadwrn Hydref 4ydd. Iestyn Davies fydd yn arwain y daith tua 13 milltir oddeutu’r abaty a Chasgwent. Os oes diddordeb cysylltwch a Iestyn 07876 068498 neu iestynd@gmail.com os ydych am ymuno. Fe fydd y cerddwyr yn ymgynyll wrth y maes parcio Abaty Tyndyrn am 9.15 y bore.
Mae’r clwb yn bwriadu cynnal teithiau cerdded eraill hefyd. Dyma’r manylion:
Sadwrn Tachwedd 1af, Taith Cribarth Sgwd Henrhyd o Glyntawe.
Manylion y Daith: Cyfarfod yn y lay-by i’r De o Graig y Nos ar yr ochr dde wrth deithio am y Gogledd.ar yr A4067. CG SN841153
Taith gylch hynod ddifyr ac amrywiol tua 9 milltir, a golygfeydd godidog.
Cyfarfod am 9.15 i gychwyn am 9.30.
Arweinydd y Daith : Pens Ffon 07881501137 pens@tonteg37.fsnet.co.uk
Rhowch wybod i Pens os ydych am ymuno
Sadwrn 13 RhagfyrTaith y Mynyddoedd Duon
Manylion y Daith: Cychwyn: 9.30..Maes parcio Crughywel (tu ol i’r Ganolfan wybodaeth) Cyfeiriad grid: SO 219185
Taith: Crughywel – Llangenny – Llanbedr – Pen y Fal
Hyd: tua.13m
Arweinydd y Daith: Richard Mitchley ( Richard@dragontrails.com)
Cysylltwch a Richard os am ymuno. 01600 750463 neu 07850 174875
Sadwrn 24 Ionawr
Taith o amgylch Carreg Cennyn
Cwrdd yng Ngharreg Cennen Cyfeirnod Grid 66654 19331. Taith o tua 10 milltir, Tarddiad yr Afon Llwchwr a siawns i gerdded grib mwyaf orllewinol Bannau Brycheiniog. Siawns cael torri syched neu cynhesu yn y Cennen Arms ar ol y daith.
Arweinydd y Daith Guto Evans – 07824 617131 guto.evans@btinternet.com
Rhowch wybod i Guto os ydych am ymuno.
Sadwrn 21 Chwefror
Manylion i ddilyn
Arweinydd y Daith Digby Bevan( digby.bevan@hotmail.com) 07870 663574
Rhowch wybod i Digby os ydych am ymuno
sylw ar yr adroddiad yma