‘Rwyf newydd fod i weld cynhyrchiad Ysgol Plasmawr o Swyn y Gan, sef addasiad Cymraeg o’r sioe gerdd fyd-enwog, The Sound of Music.
‘Roedd e’n anhygoel.
Fel pob rhiant, ‘rwyf wedi gorfod mynd i weld fy mab yn perfformio mewn sawl sioe ysgol, gan gychwn efo sioeau Nadolig ei ysgol feithrin. Amrywiol oedd y safon, bryd hynny, gyda ambell i ddisgybl tair mlwydd oed yn anghofio’r geiriau’n gyfan gwbl. Yn wir, ‘roeddwn bron a gofyn am f’arian yn ôl, ar adegau.
Ond, wrth gwrs, mae’n ddyletswydd arnom i fynd i’w gweld. Wedi’r cyfan, mae’n brofiad da i’r plantos ac, er yr angen i eistedd ar sedd anghyfforddus am awr neu ddwy, yn gwrando arnynt yn canu Tawel Nos a Gorwedd Mewn Preseb, mae’n bwysig ein bod yn eu cefnogi.
Gyda rhyw deimlad o ddyletswydd, felly, fe gymerais fy sedd i weld noson olaf perfformiad Plasmawr o hanes Maria a’r teulu Von Trapp.
‘Roedd y neuadd yn llawn. Yn rhieni, brodyr a chwiorydd. Yn famgwn a thadcwn. Ambell i athro nerfus a diflino. Ac, wrth gwrs, y prifathro doeth, yn cadw llygaid barcud ar y cyfan.
Edrychais ar f’oriawr. Tair awr i fynd cyn diwedd y sioe…
Ond, hei, ‘rwy’n hoff iawn o sioeau cerdd. Rhowch i mi Oliver, Chitty Chitty Bang Bang, Mamma Mia, ac, wrth gwrs, The Sound of Music, ac rwy’n fwni mawr, tew, hapus.
Byw mewn gobaith, felly.
A dyma ddechrau digon dramatig…
O gefn y neuadd dywyll fe ddaeth, yn araf deg, gorymdaith o leianod, yn cario canhwyllau tra’n llafar-ganu. Ac, yn wir i chi, roedd y canu’n hynod, hynod o swynol.
Fe’n tywyswyd, drwy hyn, yn syth i fyd Maria, y lleian (dan hyfforddiant) bywiog, annwyl a charedig, nad oedd, rhywsut, cweit yn barod i droi’n lleian broffesiynol.
Difyr oedd gwrando ar y sgwrs amdani ac, o’r cychwyn cyntaf, fe ddaeth yn amlwg fod cyfarwyddwyr y sioe (Marc Lewis a Dona Viney) wedi llwyddo i ddwyn ger ein bron elfennau o hiwmor y stori, yn well na wnaethpwyd yn y ffilm, hyd yn oed.
Ac yna, dyma Maria.
Yn Mabli Tudur mae gennym dalent aruthrol. Mae ganddi lais anhygoel a’r gallu (tra’n canu, a hefyd tra’n actio) i berfformio’i rôl fel Maria i rhyw lefel sydd yn ddim llai na hollol broffesiynol. ‘Roedd wedi camu i fewn i’r rôl yn wych – ac wedi mabwysiadu cymeriad Maria i’r dim. Mae ganddi ddyfodol disglair iawn.
Ac, yna, fe aeth yr holl beth o nerth i nerth.
Cawsom gan Erwan Hughes (Capten Von Trapp), berfformiad a oedd yn ‘spot-on’. ‘Roedd y gwrthgyferbyniad rhyngddo ef a Maria yn bleser i’w wylio. Ef yn bwyllog, yn urddasol, yn ddyn difrifol. A hithau yn berson mor annwyl a chynnes. Mae perfformio ròl y Capten yn beth anodd i’w wneud. Os yn rhy haearnaidd, gall edrych fel cymeriad ffug, neu fel rhyw fath o caricature. Yn hytrach, cawsom weld dyn ac iddo sawl dimensiwn cymhleth. Ac fe lwyddodd Erwan i’w ddangos yn ymateb i’w fyd newydd mewn dull a oedd, mewn gair, yn berffaith.
Hwyl enfawr oedd gwylio’r saith o blant. ‘Roedd perffomiadau’r criw bach yma yn bywiogi’r sioe ac, unwaith eto, gwych iawn oedd y canu (gyda Mae’r Bryniau ar Dân yn dod a deigryn i fy llygaid – a Hwyl Fawr, Ffarwel, yn dod a gwên enfawr).
Cafwyd perfformiadau bendigedig, hefyd, gan weddill y cast (Gareth Scourfield fel Max suave iawn; Maia Davies fel Elsa Schrader cyfoethog a soffistigedig; Rhys Morris fel y nazi ifanc, Rolf; Emyr Jones yn hollol hilariws fel y bwtler, Franz; Elin Glaves fel morwyn di-amynedd y Capten…a mwy).
A’r cyfan i gyfeiliant cerddorfa hynod o broffesiynol, o dan arweiniad crefftus Angharad Evans. ‘Roedd y gerddoriaeth yn fywiog ac yn hwyl (Fy Hoff Bethau i),yn dyner a rhamantus (Edelweiss) ac yn ddramatig (Dringwch Pob Mynydd).
Ac mae sôn am y gerddorfa gwych yn f’atgoffa o hyd a lled y gwaith penigamp a aeth i mewn i baratoi’r sioe. Hyfforddi’r cast a’r gerddorfa, y goleuo, y dechnoleg a’r set.
Roedd fy mab yn wych iawn fel nazi ifanc, hefyd!
Hedfanodd y tair awr ac nid oeddwn, am eiliad, wedi meddwl gofyn am f’arian yn ôl!
Llongyfarchiadau enfawr Ysgol Plasmawr!
A diolch am noson hyfryd.
sylw ar yr adroddiad yma