Gan Gwenda Richards
Ai opera yw Sweeney Todd neu sioe gerdd? Neithiwr ar lwyfan Canolfan y Mileniwm, doedd dim amheuaeth taw i’r categori cyntaf mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru yn perthyn, er taw cantorion sioe cerdd yw sawl un ar y llwyfan.
Mae cynhyrchiad James Brining yn un o dri yng nghyfres ‘Gwallgofrwydd’ y WNO, ac mae’r olygfa gyntaf, sy wedi gosod mewn seilam, yn taro nodyn tywyll sydd yn parhau drwy’r perfformiad. Nid bo chi’n disgwyl i Sweeney Todd, the Demon Barber of Fleet Street gan Stephen Sondheim i fod yn llawn laffs.Ac yn sicr newch chi ddim ffansio pastau cig am sbel fach.
Mae’r stori yn un weddol cyfarwydd. Mae’r barbwr yn dychwelyd i Lundain i chwilio am ei wraig a’i ferch Johanna ar ôl treulio blynyddoedd mewn carchar. Yn ôl acen Sweeney (David Arnsperger) feddylies i taw yn yr Almaen y buodd e’n alltud – ond yn Botany Bay oedd e di bod, yn gosb am ryw fisdimaners pymtheng mlynedd ynghynt. Dial ar gymdeithas sydd ar ei feddwl nawr.
Ymhen dim mae’n lodjo gyda pherchnenog siop bastai, Mrs Lovett, sydd yn ei adnabod o’r dyddiau cynt. Mae hi’n gwybod beth ddigwyddodd i’w wraig (ar ôl gwenwyno’i hun, aeth i gardota) a’i ferch. Mae Johanna (Soraya Mafi) yn awr yn ‘ward’ i’r barnwr Turpin (Steven Page), y dyn wnaeth dedfrydu Sweeney ar gam. Ond dyw Mrs Lovett ddim yn datgelu hwn i Sweeney achos mae hi’n ffansio’r barbwr ac am ei briodi. Mae perfformiad Janis Kelly fel y cogyddes yn arbennig ac yn rhoi elfen o gomedi i’r ddrama sydd i’w groesawu. Yn yr olygfa lle mae’n nhw’n penderfynu dodi’r cyrff yn y pastai, mae Janis Kelly yn chwareus heb fynd dros ben llestri. Y gân yma “Little bit of Priest’’ yw’r gân mwyaf adnabyddus a soniarus yn yr holl sioe.
Mae’r gerddoriaeth yn waith caled ar brydiau, i bobl fel fi sydd yn llai cyfarwydd â chaneuon digywair Sondheim. Does yr un gân sy’n gadael chi i fwmian ar ddiwedd y noson. Mae’r unawdwyr a’r corws yn ymdrechu’n dda i ddod a lliw i’r sioe dan arweiniad James Horner ac fe fwynheuais perfformiad Aled Hall fel ‘sidekick’ sinistr y Barnwr Turpin, Beadle Bamford, yn fawr- yn enwedig pan mae’r Beadle yn chwarae’r harmonium.
Clod hefyd i George Ure fel Tobias, ‘stooge’ i Pirelli (Paul Charles Clarke) barbwr/deintydd sy’n adnabod Todd ac yn ei flacmêlio. Yn ddiweddarach mae’n chwarae rhan allweddol wrth fynd i weithio yn y siop bastai. Mae’r olygfa rhyngddo a Mrs Lovett “Not while I’m around” yn dyner iawn.
Sy’n gadael ni at y brif gymeriad, y barbwr ei hun. Mae David Arnsberger yn filain pan mae rhaid iddo fod- sydd yn aml iawn- ond braidd yn undonog yw ei berfformiad. Rhywsut doedd e ddim yn hoelio fy sylw, a braidd yn ddi garismataidd yw’r Sweeney yma.(Os gall llofruddiwr fod yn garismataidd, ond chi’n gwbod be wi’n meddwl).
Atmosfferig iawn yw set y cynllunydd Colin Richmond, gyda’r siop barbwr a stafell wely Johanna mewn bocsys uwchlaw’r llwyfan, sy’n seilam un funud a’r cafe bastai funud arall. Clyfar hefyd yw’r modd y mae Sweeney yn cael gwared ar y cyrff wedi iddo dorri’u gyddfau a’r rasel a’u danfon nhw lawr y shute i’r gegin i gael eu rhoi drwy’r mixer (teirgwaith !) cyn eu lapio mewn crwst. Ac mae na lot ohonyn nhw!
Ar y cyfan buaswn wedi hoffi i’r WNO gyflwyno mwy o pazazz sioe gerdd i’r cynhyrchiad ond serch hynny, mae’n arbrawf dewr iawn gan y WNO ac mi arhosiff ambell olygfa’n hir yn y côf.
Mae ‘r cynhyrchiad ar daith ac yn dychwelyd i Gaerdydd yng Nganolfan y Mileniwm ar Dachwedd 24 – 29. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.
sylw ar yr adroddiad yma