Gan Huw Onllwyn.
Wrth grwydro trwy fwrlwm Tafwyl, daeth y cyfle i ni ofyn i sawl person byd-enwog am eu hargraffiadau o’r wyl:
Heini Gruffudd: ymgyrchwr iaith byd-enwog; enillydd llyfr y flwyddyn (yr Erlid) a garddwr penigamp.
C: Beth yw’r peth gorau am Tafwyl? A: Llond lle o Gymru Cymraeg yn mwynhau. Bandiau gwych.
C: Yr Almaen neu’r Ariannin? A: Yr Almanen!
Dr Matthew Evans: Prifathro Ysgol Gyfun Ystalafera, cyn-ddyfarnwr rygbi, sgiwr penigamp (a lled-peryglus)
C: Y peth gorau am Tafwyl? A: Lleoliad gwych a’r bwrlwm o ddigwyddiadau cyffroes. Cael blas o fywyd Cymraeg cyffroes y brif-ddinas.
C: Yr Almaen neu’r Ariannin? A: Yr Almaen!
Dafydd Sion Jones: disgybl yn ysgol Gwaelod y Garth, pel-droediwr ysgubol, pencampwr loom bands
C: Y peth gorau am Tafwyl? A: Gweld ffrindiau; lot o bobl a lot o hwyl. Yr Almaen!
Joe West: dysgwraig C: Y peth gorau am Tafwyl? A: It’s a great idea – and helps to publicise how you can learn Welsh. Lots of imformation here for learners – and lots of good activities. I’m also enjoying the bands and the other stalls!
Sion Jobbins: blogiwr gwleidyddol; trefnydd ras yr iaith, brawd Sian Lewis (Menter Caerdydd) C: Y peth gorau am Tafwyl? Mae fel eisteddfod heb y cerdd-dant a’r cystadlu! Mae’n lle saff i’r plantos – ac yn gyfeillgar. Amrwywiaeth gwych o ddigwyddiadau. Yr Almaen. Wel, dyna flas o ymateb pobl sy’n mynychu Tafwyl… A druan o’r Ariannin!
Beth yw eich barn chi? Rhowch eich sylw isod.
gwych gweld cymaint o bobl yno! fel mini-eisteddfod. ond mae angen ailystyried lleoliad y pebyll ‘sgyrsio’. es i ddau beth yn y babell goginio a methu clywed beth oedd y siaradwyr yn ei ddweud oherwydd y swn o’r llwyfan. rhywbeth i’w ystyried ar gyfer y flwyddyn nesa 🙂
Ni ddylid rhoi doethuriaethau i bobl heb sail
Mae typo yn yr erthygl – Dr o flaen yr enw anghywir!