Dyma ddatganiad i’r wasg diweddaraf RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg)
MAE cyfarfod anhygoel o Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Cyngor Caerdydd a gynhaliwyd y prynhawn ddoe wedi gadael Strategaeth Addysg Gymraeg Cyngor Caerdydd yn deilchion.
Wedi dim ond hanner awr, cafwyd cais cwbl ddigynsail gan y Cynghorydd Julia Magill, Deilydd y Portffolio Addysg, i alw’i chynlluniau ei hun yn ôl, gan dderbyn fod rhai eu hailystyried, yn wyneb dicter y cyhoedd. Syfrdanwyd pawb gan ei phenderfyniad, ac wedi egwyl fer gohiriwyd y cyfarfod. O ganlyniad, yn hytrach na wynebu proses graffu drylwyr a helaeth, dim ond llond draw o gwestiynau fu’n rhaid iddynt ymateb mewn perthynas â’u cynlluniau. Yn ogystal, dim ond wedi protestiadau o’r llawr, y cafodd tystion oedd yn cynnwys rhieni, neiniau, teidiau, a llywodraethwyr gyfle i fynegi barn, ac ni chofnodwyd eu datganiadau’n ffurfiol.
Er gwaethaf y digwyddiadau yma, roedd yn fuddugoliaeth ddiamheuol i’r ymgyrchwyr, wrth i’r Cyngor cael eu gorfodi i ddechrau eto ac ailystyried yr ymrwymiad i ysgol Gymraeg yn Grangetown, yn hytrach na’r estyniad arfaethedig i Ysgol Pwll Coch, sydd ym mhellafion eithaf Treganna. Pasiwyd hefyd y bydd rhaid i gynllun diwygiedig y Cyng. Julia Magill fynd gerbron y pwyllgor craffu unwaith eto cyn cael ei drafod ymhellach gan y cabinet.
Wrth ymateb i’r cyfarfod, dywedodd cyd-Gadeiryddion Ymgyrch TAG, Dr Dyfed Huws a Jo Beavan Matcher, “Rydym yn fodlon iawn bod y penderfyniad wedi ei gyfeirio nôl i’r cabinet. Mae chwalfa heddiw yn cadarnhau ein hamheuon na ddilynwyd y gweithdrefnau priodol,ac yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â gallu a chymhwysedd y cyngor. Erys y ffaith nad oes cynlluniau o hyd ar gyfer Ysgol Gymraeg i Grangetown a Threbiwt, ac nad yw plant ein cymunedau’n cael eu trin ar sail cydraddoldeb o safbwynt cyfleoedd addysgiadol.
Galwodd ysgrifennydd y mudiad, Huw Williams, am ychydig o synnwyr cyffredin, “Y peth amlwg i’w wneud yw darparu ysgol Gymraeg newydd i Grangetown mor fuan â phosib, gydag arian sydd eisoes wedi ei glustnodi gan Lywodraeth Cymru.”
sylw ar yr adroddiad yma