Gyda’r tymor ysgol yn nesau, ar y 12fed a’r 13eg o Fedi mi fydd Siop Lyfrau CBAC yn arddangos amrywiaeth o nwyddau Cymraeg ar gyfer plant oedran ysgol feithrin gan gynnwys:
– Llyfrau addysgol
– Jig-sos
– Teganau
– Llyfrau sticeri Cymraeg
– Llyfrau dwy-ieithog – i helpu rhieni sydd ddim yn siarad Cymraeg
Cyfle hefyd i gwrdd â chyflwynwyr rhaglen boblogaidd S4C “Cyw” am stori a chân am 1.30pm ar 13 Medi.
Mae’r siop hefyd yn cynnig gwasanaeth archebu.
Siop Lyfrau CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Llandaf, Caerdydd. CF5 2YX
sylw ar yr adroddiad yma