gan Ieuan Rhys
Mae’r New Theatre wedi cyhoeddi nifer o sioeau newydd yn ddiweddar ar gyfer yr Haf/Hydref.
Dwy sy’n sefyll mas i fi yw 30 Million Minutes gyda’r actores/digrifwraig a aned yng Nghaergybi – Dawn French a’r llall yw Rock Of Ages gyda’r seren o Gaerdydd Noel Sullivan.
30 MILLION MINUTES – 16-18 GORFFENNAF
Gyda llygad a chlust sy’n sylwi ar bob manylyn o wiriondeb, mae Dawn French o yn rhannu oes o brofiadau ofer yn ceisio byw bywyd fel merch cwbl gall a resymol.
Mae ei diffyg ewyllys anhygoel, ynghyd â’r ddawn glodwiw i fusnesu a dangos ei hun, wedi’i sbarduno i fynd i’r afael â phynciau mawr bywyd yn gyhoeddus. 30 miliwn o funudau o fywyd, mewn gwirionedd. Sef ei chyfnod ar y ddaear hyd yma.
Dyma gawl potsh o sioe ddifyr a dadlennol, ac ambell dro trwstan yng nghanol y pwdin, wrth i Dawn ein tywys trwy’r gwersi amrywiol a ddysgodd mewn bywyd, a’r pethau mae’n gwbl sicr yn eu cylch…
TOCYNNAU £39.50 – £15
ROCK OF AGES 6-11 HYDREF
Mae’r sioe chwedlonol Rock of Ages sy’n dal i’w rocio hi ar Broadway wedi pum mlynedd, ac a fu’n llwyddiant ysgubol am dair blynedd yn y West End, yn dod i Gaerdydd yn awr.
Dyma sioe gerdd wefreiddiol o ddoniol sy’n seiliedig ar yr 1980au, sy’n cynnwys 30 a mwy o ganeuon eiconig gan gynnwys Don’t Stop Believin’, We Built This City, The Final Countdown, Wanted Dead or Alive, Here I Go Again, Can’t Fight this Feeling ac I Want To Know What Love Is.
RHYBUDD: Yn cynnwys golygfeydd roc a rôl rhemp!
TOCYNNAU £33.50 – £12
sylw ar yr adroddiad yma