Sioe Tudur Owen yn cael ei ffilmio yng Nghaerdydd

16 Ebrill 2015

Mae Tudur Owen wedi “Pechu” dros Gymru gyfan yn ei sioe “stand up” newydd! Y Taith mwyaf uchelgeisiol Tudur yw “Pechu”, ac yn wir, sioe mwyaf uchelgeisiol comedi Cymraeg hyd yn hyn.

Os ydych chi dim ond wedi gweld Tudur ar y teledu neu ei glywed ar y radio mae angen i chi ei weld yn fyw er mwyn profi hiwmor comediwr mwyaf poblogaidd Cymru yn ei anterth ac yn ei gynefin naturiol – ar lwyfan.H7IikoBu

Mae Tudur a “Pechu” wedi bod teithio Cymru ym mis Mawrth a mis Ebrill eleni, yn ymweld a llefydd mor wahanol i’w gilydd a Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Theatr Soar ym Merthyr.

Bydd yn creu hanes wrth i “Pechu” gael ei ffilmio ar gyfer teledu ar ddiwedd y daith. Hon bydd y sioe gomedi awr o hyd gyntaf  gan un comediwr i’w ddarlledu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r sioe gomedi gyntaf erioed i’w ffilmio yn Theatr Richard Burton yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd am 8pm ar Ebrill 25ain. Tocynnau ar gael yma

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma