Mae CBeebies yn galw ar blant y ddinas i wneud cerddoriaeth gyda sêr CBeebies mewn sioe newydd sbon ar gyfer y Pasg 2014 – CBeebies Live! Y Band Mawr.
Bydd miri mawr gyda Justin Fletcher MBE a Mister Maker yn y Motorpoint Arena ynghyd â Mr Bloom sy’n ymddangos yn ei CBeebies Live! gyntaf erioed.
Byddwch yn barod i ganu, dawnsio a gweiddi’n uchel wrth i’r sêr y sgrîn chwilio am dalent gerddorol arbennig i roi band mwyaf y gallan nhw at ei gilydd.
Yn ymuno a’r criw bydd Rastamouse, y ZingZillas a Nina a’r Neurons tra bydd Andy Day a Katy Ashworth yn sicrhau bod pawb yn cael hwyl.
Gall sêr CBeebies adeiladu’r band mwyaf erioed? Un peth sy’n sicr yw mae llawer o bethau annisgwyl yn y sioe i ddiddanu’r plant gan gynnwys perfformiad amhrisiadwy gan Mr Tymbl.
I gael eich difyrru a diddanu gan griw CBeebies ewch i’r Motorpoint Arena ar 14eg/15fed Ebrill 2014
TOCYNNAU AR WERTH NAWR YN Y SWYDDFA DOCYNNAU – 02920 22 44 88
sylw ar yr adroddiad yma