Bydd Sinema Awyr Agored yn dod i’r Castell o 18 i 20 Medi gyda rhaglen sy’n cynnwys ffefrynnau pawb o fyd ffilm a chyfle i deithio yn ôl i’r gorffennol gyda Back To The Future, Mamma Mia! a Monty Python and the Holy Grail.
Mae The Luna Cinema, y cwmni sy’n gyfrifol am lwyfannu digwyddiadau sinema awyr agored mwyaf Prydain, wedi bod yn teithio i leoliadau ar hyd a lled y DU eleni gan gynnwys plastai urddasol a gerddi botanegol, cestyll o’r 10fed ganrif a lleoliadau ar doeau adeiladau trefol.
Mae’r cysyniad o sinema awyr agored yng Nghastell Caerdydd wedi cipio’r dychymyg gyda nifer o docynnau wedi gwerthu ymlaen llaw ond dyw hi ddim yn rhy hwyr i archebu.
Y rhaglen fydd:
Gwener 18 Medi: Back to the Future
Sadwrn 19 Medi: Monty Python and the Holy Grail
Sul 20 Medi: Mamma Mia!
Bydd gatiau’r Castell yn agor am 6pm a’r ffilm yn dechrau am 7.30pm.
Mae croeso i fynychwyr dod â blanced a phicnic neu brynu Tocyn Premiwm sy’n cynnwys sedd. Gellir archebu tocynnau ymlaen llaw drwy www.thelunacinema.com
sylw ar yr adroddiad yma