Mae dwy sioe “blockbuster” yn dod i Ganolfan y Mileniwm dros y misoedd nesa’.
Mae Shrek The Musical, sy’n seiliedig ar y ffilm animeiddio lwyddiannus gan DreamWorks, yn sioe berffaith i’r teulu cyfan ar gyfer Nadolig.
Gyda llwyth o ganeuon newydd yn ogystal ag anthem cwlt Shrek I’m a Believer, mae Shrek The Musical yn dod â chymeriadau annwyl DreamWorks yn fyw mewn sbloets fawr o ganu a dawnsio.
Yn y flwyddyn newydd mae’r sioe syfrdanol a hynod lwyddiannus, Priscilla Queen of the Desert the Musical yn dychwelyd i’r Ganolfan oherwydd galw mawr – gyda Jason Donovan fel Tick.
Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae Priscilla yn antur gynnes am dri ffrind sy’n neidio ar hen lanast o fws i chwilio am gariad a chyfeillgarwch. Ond yn y pen draw, maen nhw’n dod o hyd i lawer mwy nag yr oedden nhw erioed wedi’i ddychmygu.
Mae Shrek The Musical yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 8 Rhagfyr tan 10 Ionawr. Mae tocynnau yn costio £19.50 – £44. Canllaw oed 5+ (Dim plant o dan 2 oed).
Bydd Priscilla Queen of the Desert the Musical yn y Ganolfan o 12 – 16 Ionawr. Mae tocynnau yn costio £19 – £42. Canllaw oed 15+ (Dim plant o dan 2 oed).
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan neu ffoniwch 029 2063 6464.
sylw ar yr adroddiad yma