Gan Eiry Palfrey
ARIES:
Os ydych chi ar fin arwyddo rhyw bapur swyddogol, mae’n bwysig eich bod chi’n aros hyd nes i’r 15fed fynd heibio cyn gwneud hynny. Mae’n bosib y byddwch chi’n paratoi ar gyfer rhyw ddathliad pwysig cyn bo hir.
TAURUS:
Mae cyfnod rhamantus iawn yn dechrau i chi nawr; ac os ydych chi’n dal i chwilio am y cymar perffaith, fe allai rhywbeth hyfryd iawn ddigwydd cyn bo hir. Ond mae elfen o dwyll o’ch cwmpas hefyd, felly cymrwch ofal!.
GEMINI:
Mae tipyn o newid, a straen o’ch cwmpas ar hyn o bryd. Mae’n bosib iawn y bydd yn rhaid i chi wneud penderfyniad tyngedfennol cyn diwedd y mis fydd yn ymwneud â’ch gwaith neu’ch addysg falle. Peidiwch â rhuthro i benderfynu.
CANCER:
Mae hwn yn addo bod yn gyfnod cymdeithasol iawn. Mi fydd cyfeillion newydd, neu hen ffrindiau o’r gorffennol yn dod i mewn i’ch bywyd. Peidiwch â dathlu gormod gan fod tuedd ynnoch chi nawr i ennill pwysau!
LEO:
Mae pennod newydd ar fin agor yn eich bywyd nawr, yn eich gyrfa, neu falle yn y cartre. Rydych chi’n teimlo fod bywyd yn ddiflas iawn ar hyn o bryd ac yn ysu am weld tipyn o gyffro yn digwydd o’ch cwmpas. Mi ddaw!
VIRGO:
Fe allwch chi ddisgwyl newidiadau mawr yn eich gyrfa cyn bo hir. Mae rhywun yn siwr o dalu sylw i’ch gallu a’ch gwobrwyo mewn rhyw ffordd. Mae eich sefyllfa ariannol yn debygol o wella hefyd, ond ara deg gyda’r gwario – rhag ofn!
LIBRA:
Fe ddylech gael llythyr neu alwad ffôn, neu ebost oddi wrth berson eitha pwysig tua chanol y mis fydd yn cael tipyn o argraff ar eich gyrfa. Mae eich sefyllfa ariannol yn weddol iach ar hyn o bryd hefyd.
SCORPIO:
Mae trobwynt anhygoel o bwysig yn sicr o ddigwydd yn eich bywyd cyn bo hir, gan fod Pluto y planed sydd yn rheoli eich arwydd mewn sefyllfa ffafriol iawn. Mae lwc a rhamant di-ri ar ei ffordd i chi. Www lwcus!
SAGITTARIUS:
Mi fyddwch chi’n llawn ynni a brwdfrydedd o’r diwedd, ar ôl cyfnod annarferol (i chi!) o lesgedd. Unwaith y bydd y planedau Mercher a Mawrth yn symud i le mwy ffafriol yn eich siart ddechrau’r mis mi fydd pethe ar i fyny!
CAPRICORN:
Mae cyfaill yn mynd i gynnig cyngor doeth iawn i chi cyn bo hir; ac er fod hynny’n mynd i godi’ch gwrychyn rhywfaint, peidiwch a bod yn rhy falch i wrando nag i ddilyn ei air. Mae’n amser i fod yn fwy hyblyg yn eich agwedd, Capricorn!
AQUARIUS:
Dros y misoedd diwetha rydych chi wedi tyfu mewn hyder, fe ddylai hynny eich helpu i wynebu cyfnod eitha anodd fydd yn codi cyn bo hir. Dilynnwch eich cyngor a’ch greddf eich hun ac mi fydd y darnau’n disgyn yn dwt i’w lle.
PISCES:
Dyma’r amser delfrydol i chi deithio. Os oes gyda chi wythnos yn rhydd ewch i grwydro a mwynhau, a phwy o wyr fel allech gwrdd â rhywun arbennig iawn ar eich teithau! Fe ddylai unrhyw broblem cyfreithiol fu gyda chi gael eu ddatrys nawr.
sylw ar yr adroddiad yma