Seiclo yng Nghaerdydd: beth yw eich barn?

10 Rhagfyr 2013

gan Beth Williams

Gyda 58 milltir o lwybrau seiclo ar draws Caerdydd ac 14 gwahanol siop seiclo wedi ei leoli yn wahanol ardaloedd yn y ddinas byddwch yn credu bydd nifer fawr o bobl Caerdydd yn mwynhau seiclo. Pam felly bod ond 4% o bobl Caerdydd yn seiclo i’r gwaith?

Fy enw i yw Beth Williams ac ar hyn o bryd rwyf yn wneud profiad gwaith gyda Pobl Caerdydd. Gofynnwyd i mi wneud ymchwil ar seiclo yng Nghaerdydd ac felly es i lawr i’r trac seiclo yn Ganolfan Hamdden Maindy i gyfweld â seiclwyr broffesiynol yn ogystal â bobl oedd ddim wedi seiclo am flynyddoedd.

IMG_1017_1_

Betsan Jenkins a Jake Phelps

Wrth gyfweld â’r bobl yma wnes i ddarganfod nifer o wahanol syniadau am pam nad oedd llawer o bobl yn mwynhau seiclo yng Nghaerdydd – yn enwedig ar yr hewlydd. Dywedodd Betsan Jenkins taw’r prif rheswm ei bod yn penderfynu peidio seiclo i’r ysgol yw oherwydd ei fod ddim yn teimlo’n saff a fod yr hewlydd yn ‘rhy brysur.’ Yn ogystal, doedd hi ddim yn hoff o’r gyfleusterau seiclo yng Nghaerdydd oherwydd, yn ei barn hi, ‘does dim digon o lwybrau seiclo neu lonydd seiclo ar ochr yr hewlydd ac mae’r rhai sydd yna ddim yn dda iawn.’ Credodd Betsan gall y cyngor wella’r problem yma gan ‘greu fwy o lwybrau neu lonydd seiclo ar yr hewlydd felly mae pobl yn gallu ei ddefnyddio i mynd i’r gwaith ac i’r ysgol.’ Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru ond yn gwario £3.30 i bob person ar seiclo bob blwyddyn a ddywed Matt Hemsley, ymgynghorydd polisi Sustrans Cymru, bod hyn ond yn ‘ffracsiwn bach iawn o’r cyllideb trafnidiaeth.’ A ddyle Llywodraeth Cymru gymryd ysbrydoliaeth o’r Iseldiroedd lle mae nhw’n gwario £19 i bob person ar seiclo ac o ganlyniad mae seiclo yn boblogaidd iawn yn y wlad.

Dywed nifer o bobl wnes i siarad gyda dyle seiclo, a’r cyfleusterau seiclo sydd ar gael, gael ei hyrwyddo lawer mwy yn Nghaerdydd i adael i bobl gyffredin wybod am beth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn â seiclo yn y brifddinas. Wrth siarad â Jake Phelps o Rhiwbina ar y trac seiclo yn Maindy dywedodd e dyle sesiynau seiclo, fel yr un roedd e’n mynychu, gael ei hyrwyddo llawer mwy ar draws y ddinas.

Seiclo1

Emily Jenkins

Y prif beth wnes i sylweddoli wrth siarad â nifer o bobl am seiclo oedd fod nifer yn credu bod seiclo ar yr hewlydd yn rhy beryglus a fod y cyfleusterau ar yr hewlydd yn ofnadwy. Ond 2% o bobl Cymru sy’n meddwl taw seiclo yw’r fath o trafnidiaeth fwyaf saff. Dywed Emily Jenkins o Llandaff ei fod ddim yn mwynhau seiclo am ei fod yn ‘ofni y traffig ar yr hewlydd.’ Dywed hefyd ei fod yn credu bod y ‘cyfleusterau seiclo oddi ar y ffordd yn dda a fod rhai o’r llwybrau seiclo megis y Taff Trail yn dda’ ond roedd hi’n credu bod ‘y cyfleusterau ar yr hewlydd ddim yn dda. Mae nifer o bobl yn parcio yn y lonydd seiclo ar yr hewlydd ac felly maent yn ddi-werth.’ Mae hefyd yn credu bod hi’n llawer rhy beryglus i seiclo yn y ddinas a’i bod yn gwybod am ‘nifer o seiclwyr profiadol sydd wedi cael eu bwrw bant o’i beiciau ar yr hewlydd yn y dinas.’

Mae Alan Davies, hyfforddwr seiclo yn Maindy yn credu bod amrywiad mawr yn safon y cyflesterau seiclo yng Nghaerdydd – ‘Rwy’n credu bod rhai gyflesterau yn ardderchog, gall rhai gael ei wella ac mae rhai yn enbyd. Mae’n dibynnu pa ran rydych chi’n edrych arno. Mae’r math o gyfleuster sydd yma yn Maindy ar y trac seiclo yn arbennig. Mae’n dda iawn ar gyfer beth sydd angen i’r bobl ifanc ddatblygu a gwella, rydych yn gallu wneud llawer ar y trac hwn. Gallem wir defnyddio cyflesterau oddi ar y ffordd gwell i wneud mwy o beicio mynydd. Ond os rydych eisiau seiclo i’r gwaith mae’r lonydd seiclo a’r llwybrau seiclo yng Nghaerdydd yn ofnadwy. Rwyf yn meddwl os rydych yn gwybod beth rydych yn gwneud fel beiciwr byddwch yn iawn ar yr hewlydd, ond ni fyddwn yn argymell unhryw ddechreuwyr i fynd allan i seiclo ar yr hewlydd.’
 
Dywed Karen Williams ei fod ddim yn mwynhau seiclo am ei fod ‘ddim yn teimlo’n saff wrth seiclo ar yr hewlydd’ a bydd hi’n ‘amheus iawn o geir yn ceisio basio ac efallai peidio gadael ddigon o le.’ Dywed Tudor Williams ‘Mae’n gallu fod yn beryglus iawn ar yr helwydd ac yn y ddinas yn enwedig gyda’r cherbydau mawr a’r bysiau. Rwyf yn teimlo’n eithaf agored i niwed yn y ddinas pan dwi’n seiclo sydd ychydig yn wahanol i’r hewlydd gwledig.’

Felly, ar ôl siarad â bobl gyda sgiliau amrywiol yn seiclo mae’n amlwg bod y barn yr un peth. Mae pobl Caerdydd eisiau i’r cyngor ceisio gwella y cyflesterau seiclo ar yr hewlydd a fydd yn wneud seiclo yn llawer fwy hygyrch i gymysg enfawr o bobl ar draws y ddinas.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma