Seiclo yng Nghaerdydd: ‘Angen newid agweddau o’r gwaelod i fyny’

10 Rhagfyr 2013

Geraint CriddleMae Geraint Criddle wedi bod yn seiclo yng Nghaerdydd am dros 8 mlynedd ac felly mae ganddo dipyn o brofiadau a straeon i rannu am ei brofiadau o seiclo yn y brifddinas. Mae’n siarad gyda Issy Bradshaw.

Cyfieithydd proffesiynol yw Geraint ar gyfer y Wasg Sifil. Pob dydd, yn lle gyrru i waith mae wedi penderfynu seiclo i’w waith, yn bennaf oherwydd mae’n gallu torri ei daith i lawr o hanner awr sy’n arferol yn ei gar, i lawr at chwarter awr ar ei feic, ac osgoi holl fwrlwm traffig Caerdydd. Rhywbeth bositif arall am gymudo ar ei feic yw nad oes rhaid iddo boeni am ddod o hyd i rywle i barcio yn y bore.

Mae rhesymau eraill tu ôl i’w benderfyniad i ddewis y beic yn lle’r car. Mae gydag ef farn gref am geisio cael Caerdydd yn ddinas ble mae rhieni’n teimlo digon hapus i adael i’w plant fynd allan ar eu beiciau, yn lle cael eu gyrru i bob man. ‘Dwi ddim yn teimlo bod hynny’n digwydd ar y funud’. Mae’n teimlo bydd hyn yn ddechrau da i fywyd plant yn enwedig heddiw pam yr ydym yn ceisio datrys y broblem o ordewdra ym Mhrydain.

Nid yw Geraint yn defnyddio ei feic i gymudo yn unig. Mae’n hoffi mynd allan ar ei feic yn ei amser hamdden i seiclo ar y llwybrau seiclo sydd o gwmpas Caerdydd, am hwyl ac ymarfer corff, e.e. Taith Taf sy’n rhedeg yr holl ffordd o Fae Caerdydd i fyny at Aberhonddu.

Mae wedi cael tipyn o brofiadau drwg wrth seiclo o gwmpas Caerdydd gyda gyrrwyr yn anghofio edrych wrth newid lôn a bron yn rhedeg ef drosodd. Mae hefyd wedi cael pobl yn gweiddi allan o’u ceir. Mae cerddwyr hefyd yn gallu bod yn broblem, gyda rhai’n anghofio bod beiciau gyda hawl i fod ar y lôn hefyd.

Ansawdd Bywyd

Y prif bwynt yr oedd Geraint yn ceisio cyflwyno yw nad yw’r Cyngor Caerdydd yn cymryd mantais o dirwedd Caerdydd, ac felly yn colli allan. ‘Gall y Cyngor gwella can gwaith.’ Mae Caerdydd yn ddinas gyda thirwedd berffaith i seiclo oherwydd mae’n mor fflat, ac felly dylai’r Cyngor gwneud mwy allan o’r cyfle sydd ganddynt: ‘mae seiclo yn rhywbeth sy’n ychwanegu at ansawdd bywyd pobl’.

Nid yw Geraint yn teimlo bod y cyfleusterau ar gael ar gyfer seiclwyr ar y funud yn ddigon da. Mae’r lonydd beiciau sydd yn bodoli yn gul iawn ac o hyd gyda cheir a sgipiau wedi eu parcio ynddynt. Mae hefyd problem gyda thyllau yn y ffordd sy’n gwneud bywyd seiclwyr yn anoddach.

Mae’n cydnabod bod Cyngor Caerdydd wedi dechrau cymryd camau i wella rhai o’r lonydd beiciau gan wneud iddynt hwy’n fwy llydan, er enghraifft ar Cathays Terrace. ‘Mae’n gam yn y cyfeiriad iawn,’ dywed Geraint. Ond rydym yn cytuno bod dal pell ffordd i fynd tan fod Caerdydd yn ddinas gyfreithgar ar gyfer seiclwyr.

Hoffai inni gymryd golwg ar beth mae rhai dinasoedd yn Ewrop wedi gwneud, fel Amsterdam a Copenhagen, dinasoedd gyda strydoedd llawer culach nag ein strydoedd ni, ac maent dal wedi gwneud system effeithiol. Mae Geraint yn canmol y dinasoedd hyn ar eu gwaith o allu cadw seiclwyr, gyrwyr a cherddwyr ar wahân. Mae seiclo yn y dinasoedd hyn yn cael eu sefydlu fel rhan o gynllunio dinesig o’r cychwyn cyntaf.

Hoffa Geraint annog i seiclwyr osgoi seiclo o gwmpas y brif orsaf fysiau ar Wood Street. Nid yw unrhyw lon beiciau er bod digon o le i roi un i mewn, oherwydd mai dau lon ceir ar bob ochr. ‘ Hynny yn rhywbeth sy’n eithaf adlewyrchol o’r sefyllfa yng Nghaerdydd lle mae’r flaenoriaeth i geir o flaen beiciau.’

Nid yw Geraint yn honni bod seiclwyr i gyd yn seintiau llwyr. ‘Mae ‘na bobl sy’n seiclo’n anghyfrifol iawn, er enghraifft ar Heol y Frenhines.’ Mae hyn yn gwneud Geraint yn rhwystredig oherwydd ‘dyna le dyle fod darpariaeth. Mae digon o le iddo fod yn fwy diogel i bobl mynd o un ochr y ddinas i’r llall, yn lle mynd o gwmpas fel yw’r sefyllfa ar y funud.’

Yn bwysicaf, mae angen creu’r teimlad bod Caerdydd yn ddinas ddiogel i seiclo ynddi. Mae pawb angen yr hyder i seiclo o gwmpas, ond ar y funud nad yw Geraint yn teimlo bod hyn yn digwydd, sy’n drist iawn. Creda fod pobl ar y funud yn teimlo bod seiclo’n syniad da, ond heb yr hyder i wir wneud.

Creda Geraint yn gryf bod ar y funud yr ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar gadw seiclwyr yn ddiogel, pan ddylwn ni roi mwy o bwyslais ar greu amgylchedd diogel yn lle.’Mae angen newid agwedd o’r gwaelod i fyny, y gwaelod yw’r lefel cynllunio.’

Hoffwn i ddiolch i Geraint am gytuno i sgwrsio gyda fi. Rwyf wedi mwynhau cael y cyfle i wrando at farn rhywun sy’n seiclo’n aml yng Nghaerdydd.

Mae Issy yn fyfyrwraig newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma