Mae trigolion Croes Cwrlwys, Sain Ffagan, Y Drôp a Rhydlafar yn cwrdd wythnos nesaf i sefydlu Pwyllgor Apel er mwyn codi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.
Mae’r cyfarfod wedi ei drefnu yn Neuadd Bentref Sain Ffagan am 7.30-8.30yh nos Fawrth, Ionawr 31ain. Os oes ganddoch chi awydd helpu, neu ag unrhyw syniadau ar sut i godi arian tuag at yr wyl yn y cornel yma o Gaerdydd, mae croeso cynnes i chi ac i bawb yn y cyfarfod.
Mi fydd lluniaeth ysgafn ar gael.
sylw ar yr adroddiad yma