Mae Caerdydd wedi camu i’r trydydd safle ar restr y prifddinasoedd gorau i fyw ynddyn nhw yn Ewrop, yn ôl arolwg gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r brifddinas wedi llamu o’r chweched safle i’r trydydd, yn gydradd â Copenhagen a Stockholm. Oslo sydd ar y brig a Belffast ar ei hôl.
Mae Arolwg Safon Bywyd yn Ninasoedd Ewrop yn casglu barn dinasyddion 79 dinas yn Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’n canolbwyntio ar safon bywyd ac yn dangos pa mor fodlon yw pobl ar wahanol agweddau ar fywyd yn y ddinas, gan gynnwys cyfleoedd gwaith, trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, iechyd, gweithgareddau diwylliannol, cyfleusterau chwaraeon, prisiau tai, safon yr aer, mannau cyhoeddus, meysydd glas a glendid.
Mae’r arolwg yn digwydd bob dwy flynedd a holwyd 2,000 o ddinasyddion Caerdydd am eu barn ar y ddinas.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale:
“Mae’n hyfryd gweld Caerdydd yn codi yn y rhestr i fod ochr yn ochr â dinasoedd Ewropeaidd o safon Stockholm a Copenhagen.
“Ein gweledigaeth yw gwneud Caerdydd y Brifddinas Orau i Fyw Ynddi yn Ewrop, felly mae hyn yn bleser ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”
Beth yw barn Pobl Caerdydd tybed?
Mae mwy o fanylion ynghylch yr arolwg ar gael yma.
sylw ar yr adroddiad yma