Gan Gwenda Richards
Adnabyddir P.T. Barnum fel y dyn ddaeth â sioe gorau’r byd i gynulleidfaoedd America a’r wythnos yma mae Brian Conley yn serenni fel y dyn ei hun ac wedi dod a ‘Barnum’, gwledd hynod lliwgar i Ganolfan y Mileniwm.
Cymeriad lliwgar iawn oedd Phineas Taylor Barnum oedd yn dwli ar dwyll eithaf diniwed neu ‘hokum’ i ddenu pobl i’w atyniadau. Ynghanol y 19fed ganrif fe lwyddodd i greu math newydd o adloniant drwy sefydlu Amgueddfa America yn Efrog Newydd., yn llawn o atyniadau rhyfedd. Un o’r rhai cyntaf oedd Joice Heth, oedd yn ôl Barnum yn 160 mlwydd oed ac yn gyn nyrs i George Washington. Lol wrth gwrs -a dyna chi’r môr forwyn, Jumbo yr eliffant mwya’n y byd a’r enwog General Tom Thumb, dyn 25 modfedd o daldra; hokum llwyr ond roedd y werin yn heidio i’r amgueddfa wrth eu miloedd gan wneud Barnum yn ddyn cyfoethog iawn. “There’s one sucker born ev’ry minute” mynte fe.
Mae Brian Conley yn llwyddo i gyflei’r direidi yma yn dda, gan chwarae gyda’r gynulleidfa o’r cychwyn cynta. Mae’n amryddawn hefyd, yn gallu jyglo, bwyta tân a cherdded ar y weiren uchel. Dyw ei lais ddim yn rhy sbesial gyda rhyw dinc Rex Harrison-aidd ond mae’n gwneud iawn am hyn gyda’i bresenoliaeth cynnes – mae’n llenwi’r llwyfan.
Os taw paentio’r byd yn lliwiau llachar yr enfys oedd bwriad Barnum mae ei wraig Chairy (Linzi Hately) yn gweld bywyd fel dyfrliw. Nid bo hi’n eiddil o gwbwl, hi yw’r ysbrydoliaeth sy’n caniatau i Barnum sefydlu’i ymerodraeth adloniant. Mae’r ddau yn llwyddo i gyfleu y tynerwch chwareus sy’n bodoli rhwng cwpwl priod heb droi’n sentimental- ac yn yr ail hanner roedd na ddeigryn bach yn fy llygaid pan fu profedigaeth. Pwy fyse’n meddwl bydde hyn yn digwydd yn sioe gerdd mor fywiog a Barnum.
Mae’r briodas dan straen pan aiff Barnum ar daith- ac ar gyfeiliorn- gyda’r gantores opera Jenny Lind (Kimberly Blake) yr Eos o Sweden. Ond , hwre, mae Barnum yn cwympo ar ei fai ac yn dychwelyd wedi gwneud miliynau, i Chairy.
Heblaw am ‘Come follow the band’ ro’n i ddim yn gyfarwydd â chaneuon Cy Coleman ond mae’r sioe yn llawn o ganeuon sy’n gwthio’r stori ymlaen. Rhaid canmol yr Ensemble fan hyn a’r coreograffi gan Andrew Wright. Mae’r symudiadau, dawnsio a’r acrobatics yn gelfydd ac yn gyffrous tu hwnt- mae’r olygfa lle mae’r amgueddfa’n cael ei hadeiladu dan oruchwyliaeth Chairy yn mynd a’ch gwynt.
Cyn neithiwr doeddwn i ddim yn gyfarwydd a’r ‘ Greatest Show on Earth’ ond cefais fy siomi ar yr ochr orau- Roll Up! Roll Up! Mae Barnum ymlaen tan Awst 15. Am docynnau ewch i’r wefan
sylw ar yr adroddiad yma