Wrth i Gwpan Rygbi’r Byd nesáu, dyma apêl gan Yvonne Evans i bobl Caerdydd sydd gyda diddordeb mewn gosod llety i gefnogwyr rygbi Seland Newydd.
Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd 2011 fe drefnodd Trudi Gatland (gwraig Warren) a Basil Lennan gynllun aros ar gyfer cefnogwyr rygbi Cymru.
Trefnwyd y cynllun ar gyfer rhieni’r chwaraewyr yn wreiddiol, ac, wrth i’r neges ledaenu, fe dyfodd y cynllun i gynnwys nifer fawr iawn o gefnogwyr rygbi eraill o Gymru.
Roeddwn i a fy nheulu yn ffodus iawn i fod yn rhan o’r cynllun. Cawsom lety gan deuluoedd cyfeillgar a hyfryd. Roedd y croeso yn gynnes iawn ac rydym yn parhau’n ffrindiau da gyda’r bobl a rhoddodd gartref i ni.
Yn sicr fe wnaeth gyfoethogi ein taith ac roedd yn ffordd arbennig o dda i ddod i nabod y wlad a’i phobl.
Rwyf innau, Julie Davies ac Amber Powell yn cydlynu cynllun aros yma yng Nghymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd eleni.
Os oes gennych ddiddordeb i gynnig llety (gwely a brecwast) am un noson neu ddwy i gefnogwyr rygbi Seland Newydd dros benwythnos Hydref 2/3 pan fydd y Crysau Duon yn chwarae yn erbyn Georgia yn Stadiwm y Mileniwm, neu/ac yn ystod penwythnos Hydref 17/18 anfonwch eich manylion at rwchomestay@hotmail.com.
Y manylion sydd angen yw :
- Ym mha ardal o Gaerdydd yr ydych yn byw
- Faint o bobl y byddwch yn gallu gwahodd
- Sawl ystafell sbâr sydd ganddoch a faint o wlâu ym mhob un, e.e sengl, dwbwl
- Os fyddech yn ffafrio pobl ifanc, neu ganol oed ac yn hŷn
Bydd Cwpan Rygbi’r Byd 2015 yn arbennig a braf bydd cael estyn croeso i gefnogwyr y Crysau Duon.
Gan edrych ymlaen at glywed ganddoch.
Cofion gorau,
Yvonne Evans
rwchomestay@hotmail.com
sylw ar yr adroddiad yma