Mae arlunydd ifanc o Aberaeron wedi cymryd ysbrydoliaeth o dai lliwgar y dref glan môr i ddatblygu arddull unigryw i’w gwaith sydd i weld nid yn unig ar beintiadau ond ar bopeth o matiau i bacedi o fisgedi shortbread.
Dim ond pump ar hugain oed yw Rhiannon Roberts ond mae hi wedi datblygu busnes ym Mae Caerdydd sydd yn mynd o nerth i nerth ac mae 70% o’i gwaith yn Gymraeg. “Mae Cymreictod yn meddwl lot i fi,” meddai Rhiannon sydd yn byw gyda’i chwaer yn y Bae ger ei gweithdy yn Sgwâr Mount Stuart.
Mae ganddi gariad angerddol am gelfyddyd ac mae siarad am ei chelf yn rhywbeth mae’n gwneud yn naturiol ac yn fynych, gan annerch grwpiau Cymraeg ac ymweld ag ysgolion i wneud celf gyda disgyblion. Mae murluniau o’i gwaith i’w gweld yn Ysgol Melin Gruffydd ac Ysgol Rhymni.
Fe welais i Rhiannon yn ddiweddar mewn digwyddiad a drefnwyd gan Merched y Wawr i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn y Bontfaen . Roedd y gynulleidfa wedi ei swyno gan ynni a mentergarwch Rhiannon. “Buodd mamgu yn ysbrydoliaeth i fi a dwi wrthi’n ceisio creu atgofion da yn fy ngwaith.”
Er iddi astudio seicoleg yn yr ysgol, rhoddodd ei mam a’i mamgu anogaeth iddi i gario mlaen i beintio yn ei amser sbar er doedd neb o’r teulu yn artistig. “Tra’n edrych ar ôl mamgu ges i llawer o amser i feddwl ac i ddatblygu steil fy hun.Wedyn fe es i nôl i fyw da mam a dechre peintio yn y garej. O’n i wedi magu mewn tre yn llawn lliw ac fe ddatblyges i arddull gan ddefnyddio tonnau a dechre rhoi elfennau ac atyniadau tref neu ddinas i gyd mewn un llun.”
Dechreuodd ei gwaith werthu’n dda ac fe fanteisiodd ar y cyfle i ddatblygu cardiau a phrintiau yn gyflym iawn.” Nid pawb sy’n gallu fforddio gwaith gwreiddiol, ond trwy’r cardiau ag ati ma fe’n gyfle i bobl brynu fy ngwaith i.”
“Ers 2014 mae’r busnes wedi cicio bant a nawr bo fi wedi symud i Gaerdydd, fi’n hapus iawn ar ble fi di cyrraedd erbyn hyn.”
Mae hi yn gwneud gwaith sydd wedi’i gomisiynnu ac yn chwilio am bob cyfle i ymestyn y nifer o gynnyrch sy’n cynnwys ei gwaith. Mae rhain yn awr yn cynnwys, powleni, llwyau caru a chalonau pren.
Mae’r lluniau lliwgar yn gwerthu’n dda i dwristiaid yn ogystal a’r Cymry drwy ei gwefan Rhiannon Arts ac wrth iddi ymweld â sioeau ac Eisteddfodau o amgylch Cymru. “Fi’n treial rhoi Cymru ar y map a hybu Cyrmru ac ar yr un pryd ceisio cyd weithio gyda chynhyrchwyr lleol ,” meddai.
sylw ar yr adroddiad yma