Bydd y ‘concept albym’ cynganeddol cyntaf am sombis yn y Gymraeg yn cael ei lansio yng ngwesty Nos Da, Glan-yr-afon am 7yh nos Wener nesaf, Tachwedd y 1af.
Creuwyd Y Meirw Byw gan Y Datgyfodiad, grwp o bobl greadigol sy’n cynnwys yn eu plith Bardd Plant Cymru, Aneirin Karadog.
Meddai Aneirin:
“Datblygwyd ‘Y Meirw Byw’ gan y Datgyfodiad o awdl a ysgrifennais i am sombis. Mae Chris Josey o Lanon, Llanelli wedi cyfansoddi a chynhyrchu cerddoriaeth sy’n rhoi gogwydd a bywyd newydd i’r awdl wrth i fi berfformio’r gwahanol ganiadau i’r miwsig. Yna mae Huw Aaron wedi ymateb i’r caniadau a’r gerddoriaeth i lunio cyfres o weithiau celf penigamp sy’n ychwanegu deimensiwn arall i’r gwaith.
“Mae angen mwy i gydweithio trawsgelfyddydol yng Nghymru yn ogystal â gweithiau arswydus! Gwell fyth os oes modd cyfleu’r arswyd trwy gynghanedd. Ry’n ni’n gobeithio felly mai hwn yw’r ‘concept albym’ cyntaf mewn cynghanedd ac am Y Meirw Byw yn Gymraeg.”
Mewn cyd-ddigwyddiad braf bydd Aneirin yn cyflwyno rhaglen ddogfen am sombis ar S4C. Bydd Sombis! Byd y Meirw Byw yn cael ei darlledu ar Dachwedd y 1af am 10 o’r gloch.
Bydd y Datgyfodiad yn perfformio’r albym drwy system sain – nid ei chwarae yn fyw fel band. Hefyd bydd cwis sombis o dan ofal Gary Slaymaker.
Bydd y drysau’n agor am 7yh, y rhaglen ddogfen yn cael ei dangos am 8yh, y cwis wedi hynny ac yna perfformiad gan y Datgyfodiad o’r albym yn ei gyfanrwydd.
Bydd ‘disgo arswyd’ hefyd!
Gan fod lle yn unig i 100 o bobl yn unig gofynnir i bawb sydd am fynychu’r noson i gysylltu ag Aneirin ar Twitter – @neikaradog – cyn gynted â phosib.
Nos Da, 53-59 Despenser Street, Glan-yr-afon, Caerdydd CF11 6AG
029 2037 8866
sylw ar yr adroddiad yma