Rhamant yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Santes Dwynwen

23 Ionawr 2015

gan Sian Powell

Os i chi’n chwilio am rywbeth arbennig i wneud i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen penwythnos yma? Dyma ychydig o awgrymiadau… os os mwy o syniadau da chi, rhowch wybod helo@poblcaerdydd.com

Gweithdy creu cardyn ar gyfer diwrnod Santes Dwynwen yn Sain Ffagan, mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn mynd ymlaen rhwng 11yb-1yp a 2yp-4yp http://www.amgueddfacymru.ac.uk/stfagans/digwyddiadau/?id=7042

Beth am bryd o fwyd yn Giovannis yn yr Aes? Mae Giovannis yn cynnal cystadleuaeth Santes Dwynwen gyda chyfle i ennill tocynnau ar gyfer gem Cymru yn erbyn Iwerddon ar ddydd Sadwrn Mawrth 14eg, 2015 http://giovanniscardiff.co.uk/news/2015/01/14/dydd-santes-dwynwen-competition/

Beth am fynd i drio coctêl yn Cathedral 73? Allwch chi gael 2 am bris 1 o 5 o’r gloch ymlaen! http://www.cathedral73.com

I’r rhai ohonoch sydd bach yn hwyr ar gyfer nos Sul, mae Bully’s yn cynnal noson gourmet ar y 29ain. http://bullysrestaurant.co.uk/gourmet-evenings/

Beth am yrru cardyn arbennig i gariad gan Llenyddiaeth Cymru? Dim ond 50 sydd wedi eu dylunio gan gwmni Miss Bela ac englyn gan Aneirin Karadog. http://www.literaturewales.org/newyddion/i/146053/

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma